Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Mae meddygfa yn fy etholaeth i, ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle, yn cau ddiwedd y mis, gan adael yr ardal efo un doctor yn llai. Rwyf wedi bod yn ceisio cael gwybodaeth am hyn ers clywed y sibrydion bod y gwasanaeth i’w golli. Mi wnes i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd iechyd ar 24 Ebrill, gyda chopi i brif weithredwr Betsi Cadwaladr—dim ateb. Fe wnes i ysgrifennu eto ar 23 Mehefin at Vaughan Gething i ofyn am ateb—dim ateb. Rwyf wedi codi’r mater efo cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd mewn cyfarfod ar 19 Mai. Addawyd y bydden nhw yn edrych i mewn i’r mater. Fe wnes i ysgrifennu eto at y bwrdd iechyd ar 29 Mehefin—dim ateb. Yn y cyfamser, fe wnaeth y bwrdd iechyd ymateb i ymholiad gan y wasg ar y pwnc, ond mae'n ymddangos erbyn hyn fod yr wybodaeth honno yn anghywir. Mae’n amlwg bod yna broblemau cyfathrebu o fewn y Llywodraeth a’r bwrdd iechyd. Mae hyn yn golygu ansicrwydd mawr i gleifion yn fy etholaeth i. A wnewch chi felly edrych ar y diffyg cyfathrebu amlwg yma ac yna adrodd yn ôl i mi cyn gynted â phosib, os gwelwch yn dda?