Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Wel, mae cyhoeddi Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn cynrychioli eiliad arwyddocaol iawn yn natblygiad y drafodaeth am y ffordd y bydd y DU yn gadael yr UE. Does dim amheuaeth bod angen deddfwriaeth arnom ni, er mwyn sicrhau effaith barhaol y gyfraith sy'n deillio o’r UE ar ôl i ni adael yr UE. Ond mae’n ddadleuol iawn ai’r Bil hwn yw'r hyn sydd ei angen arnom.
Er y gall Llywodraeth y DU fod wedi newid teitl y ddeddfwriaeth, a elwid gynt y Bil diddymu mawr, mae hwn yn enghraifft brin ac, mae'n ymddangos, yn enghraifft unigryw o ostyngeiddrwydd y Llywodraeth yn ei dull o wynebu Brexit. Unwaith yr ewch y tu hwnt i'r dudalen flaen, nid oes llawer os o gwbl o dystiolaeth o barodrwydd tybiedig y Prif Weinidog, ar ôl yr etholiad cyffredinol, i ymgynghori'n eang, ac i wrando ar farn eraill ar y cwestiynau hanfodol sy'n wynebu'r DU. Ond mae llawer o faterion, wrth gwrs, y gallwn eu codi yma, er enghraifft: a yw'n iawn cael gwared ar y siarter hawliau sylfaenol, os mai diben honedig y ddeddfwriaeth yw cynnal yr hawliau sydd gennym yn rhinwedd ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd; a yw cymal 6, a fyddai'n diweddu unrhyw bwerau Llys Cyfiawnder Ewrop ar y diwrnod yr ydym yn gadael, yn ddarn o rodres gwleidyddol, nad oes ganddo le yn yr hyn gaiff ei bortreadu fel darn technegol o ddeddfwriaeth—a bydd pethau eraill hefyd.
Ond rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n fy esgusodi heddiw os byddaf yn canolbwyntio ar yr her anferth y mae’r Bil yn ei gynrychioli i'r setliad datganoledig fel y cafodd ei ddatblygu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Mae hyn wedi ei wreiddio, gadewch i ni atgoffa ein hunain, mewn cydsyniad poblogaidd. Gwelodd refferendwm 2011, er enghraifft, bleidlais mwyafrif helaeth o blaid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Er gwaethaf y rhybuddion clir a mynych iawn gennyf i, a Llywodraeth Cymru gyfan, na fyddem yn fodlon derbyn unrhyw ymgais i ddefnyddio ymadael â’r UE i gyfiawnhau ail-ganoli pŵer, dyna'n union y mae’r Bil hwn, fel y'i drafftiwyd, yn anelu at ei gyflawni. Mae'n ymgais i dynnu rheolaeth yn ôl dros bolisïau datganoledig megis yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd—nid yn unig o Frwsel, ond o Gaerdydd, Caeredin a Belfast.
Yn awr, mae hyn yn bwysig—mae’n bwysig gan fod datganoli yn ymwneud â chael y cyfle yma yng Nghymru i benderfynu ar ein polisïau ein hunain sy'n briodol i Gymru, ac sydd yn amlwg wedi cael cydsyniad y pleidleiswyr yma yng Nghymru. Ni allwn droi'r cloc yn ôl i oes pan oedd modd i Lywodraeth â mwyafrif tila yn San Steffan, a heb unrhyw fandad o gwbl gan Gymru a'r Alban, osod polisïau fel treth y pen yn wyneb gwrthwynebiad y mwyafrif helaeth o gynrychiolwyr etholedig o Gymru a'r Alban.
Mae'r Bil yn ceisio rhoi ar waith, heb unrhyw gyfyngiadau, gymwysterau neu’r hyn a elwir yn gymalau machlud, gyfyngiadau newydd ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol hwn i ddeddfu yn effeithiol ar ôl Brexit ar faterion lle’r ydym yn gweithredu ar hyn o bryd o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a ddatblygwyd gan yr UE. Os yw’r Bil hwn yn cael ei basio yn ei ffurf bresennol, byddwn yn cael ein hatal rhag deddfu mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE a gedwir. Bydd cyfraith bresennol yr UE yn cael ei rhewi, a dim ond Senedd y DU fydd yn cael caniatâd i’w dadrewi. Yn ymarferol, bydd hyn yn darparu ffenestr i Lywodraeth y DU geisio cymeradwyaeth seneddol i osod fframweithiau newydd ar draws y DU mewn meysydd datganoledig megis amaethyddiaeth, yr amgylchedd a physgodfeydd.
Yn awr, Llywydd, mae hyn yn gwbl annerbyniol ac mae'n taro at wraidd datganoli. Dyma flaen main cyllell fawr iawn. Os byddwn yn derbyn hyn, pa mor hir y bydd cyn i Lywodraeth y DU ddechrau dadlau am fframweithiau ar draws y DU ar gyfer iechyd ac addysg ar sail ei swyddogaeth unigryw yn cynrychioli'r DU gyfan a phwysigrwydd datganoli ddim yn amharu ar Brydain fyd-eang? Wedi'r cyfan, os mai’r pris y mae’r Unol Daleithiau yn ei fynnu am fargen masnach gyflym yw rhoi hawliau i gwmnïau preifat estynedig i ddarparu gofal y GIG, pam ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru gael caniatâd i sefyll yn y ffordd? Dyna fyddai eu dadl.