5. 4. Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 5:24, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Gadewch i ni fod yn glir: mae cynigion Llafur a Phlaid ynghylch Brexit, gan gynnwys y Bil parhad hwn, yn ymgais i aros yn yr UE mewn popeth ond enw gan y rhai a ymgyrchodd i aros yn yr UE ac nad ydynt yn barod i dderbyn y canlyniad a llais mwyafrif y pleidleiswyr yng Nghymru. Ond ymddengys fod yr ochr 'aros' yn anghofio eu llwybr ymosod ar adegau. Mewn un anadl, byddant yn dweud na ellir cyfiawnhau gadael y farchnad sengl gan fod y diffyg cwestiwn refferendwm manwl yn golygu nad oes neb yn gwybod beth yw barn y cyhoedd, ac eto yn yr anadl nesaf maent yn honni eu bod yn gwybod na wnaeth pobl bleidleisio am fwy o reolaethau ar fewnfudo. Mae Llafur a'r arhoswyr eraill hefyd yn hoff iawn o'r ddadl bod ein sector nyrsio, gofal cymdeithasol, milfeddygol ac eraill yn dibynnu ar lafur mewnfudwyr, ond mae’r ddibyniaeth honno yn gynhenid, wedi’i hachosi gan lywodraethau olynol yn y DU ac yng Nghymru yn methu’n druenus ag ariannu'r hyfforddiant ar gyfer ein pobl ein hunain i wneud y gwaith hwn.

Gwnaeth Prif Weinidog Cymru, yn ei ddadl â Nigel Farage, egluro sawl gwaith y byddai pleidlais i adael yr UE yn golygu gadael—gadael—y farchnad sengl. A all y Prif Weinidog a'r arhoswyr yn y lle hwn am eiliad yn unig dderbyn efallai bod pobl wedi clywed yr hyn oedd ganddo i'w ddweud am adael y farchnad sengl, ond yn syml yn anghytuno ag ef? [Torri ar draws.] Na. Roedd Mr Jones yn arfer meddwl—ac yn dal i feddwl—y byddai llawer o'r penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yn well gan was sifil yn Ewrop na’i ​​Lywodraeth Lafur Cymru ef ei hun. Er fy mod yn cytuno ag ef na ddylid gadael penderfyniadau pwysig i Lafur, nid wyf yn credu y dylent gael eu gadael i'r UE chwaith. Mae Llafur wedi gwneud cawl o bopeth sydd wedi cael ei ddatganoli i'r lle hwn hyd yn hyn, boed yn addysg, y GIG neu dai. Ond mae hwn yn fater o atebolrwydd democrataidd, a'r gallu i ddiswyddo’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau gwael. Os yw’r gwneuthurwr penderfyniadau hunanfodlon, sydd allan o gysylltiad a heb unrhyw ddealltwriaeth o sut beth yw bywyd i’r person cyffredin yng Nghymru, yn gwneud camgymeriadau’n gyson, gall pobl roi'r gorau i bleidleisio Llafur a gadael i rywun arall roi cynnig arni, ond dim ond ar faterion datganoledig i’r fan hyn, neu mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer materion sy'n dal yn gymwyseddau’r DU.

Mae'r cynnig Bil parhad yn enghraifft arall o Lafur yn penderfynu eu bod yn gwybod orau ac yn anwybyddu ewyllys y Cymry: y byddwn eisiau aros yn rhan o'r DU, gan gael rhai penderfyniadau wedi’u gwneud ar lefel y DU gyfan, ond i adael yr UE. Mae Llafur a Phlaid am i ni aros yn yr UE a'r Bil parhad yw eu ffordd o ymdrin â'r dicter yr oeddent yn ei deimlo pan ddaeth yn amlwg nad oedd yr etholwyr yn cytuno â nhw. Mae Llafur yn anwybyddu dymuniadau'r pleidleiswyr yn syml oherwydd bod y pleidleiswyr wedi anwybyddu dymuniadau Lafur. Ni all Carwyn Jones a'r arhoswyr eraill yn y lle hwn ddweud un eiliad nad oedd yr etholiad cyffredinol yn ymwneud â Brexit, fel y gwnaeth cyn y diwrnod pleidleisio, ac yna’r eiliad nesaf ddefnyddio’r canlyniad a dweud bod y pleidleiswyr wedi gwrthod gwir Brexit wedyn.

Pa mor galed bynnag y mae’r pleidiau eraill yn ymdrechu i blygu canlyniadau'r etholiad a’u haddasu i’w syniadaeth nhw eu hun, ni allwch wadu’r ffaith fod mwyafrif pobl Cymru yn cytuno ag UKIP pan mae’r drafodaeth yn ymwneud â Brexit. Soniodd y Prif Weinidog y byddai'n golygu gadael y farchnad sengl, ac roedd y llyfryn propaganda a anfonwyd allan gan y Llywodraeth Dorïaidd ar ran y fintai 'aros' yn gwneud cyfeiriad at adael y farchnad sengl ar y rhan fwyaf o’i dudalennau wrth godi bwganod. Os ydych yn dweud na allwn wybod yn union beth yr oedd pobl yn pleidleisio drosto oherwydd bod y cwestiwn yn brin o fanylion, yna mae'n rhaid i ni fynd yn ddiofyn i’r rhagdybiaeth symlaf, sef bod y bleidlais i adael yn golygu hynny’n union: pleidlais i adael yn gyfan gwbl. Pe byddai pleidleisiwr wedi bod eisiau cadw unrhyw ran o aelodaeth o'r UE, boed hynny yn rhyddid i symud neu aelodaeth o'r farchnad sengl neu unrhyw beth arall, byddent wedi pleidleisio i aros. Ond ni wnaethant. Roedd y bobl eisiau gadael, gyda'r holl ganlyniadau yr oedd hynny yn ei olygu.

Mae’r Bil parhad—cam tuag at gadw aelodaeth o’r farchnad sengl, yn fy marn i—gan gynnwys ei holl reolau a chyflwyno i'r llys Ewropeaidd— [Torri ar draws.] Cawn weld. Cawn weld. Ni wnaeth y bobl bleidleisio i’r UE barhau i wneud ein cyfreithiau drwy'r drws cefn drwy Fil parhad. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dweud ei bod yn sefyll dros bobl sy'n gweithio, ond mae difa popeth sydd wedi cael ei ddatganoli iddi yn frad sy'n dangos mai’r unig beth y mae gwleidyddion Llafur a Phlaid mewn gwirionedd yn sefyll o’i blaid yw etholiad. Diolch.