Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Rwy'n ddiolchgar iddo am ildio. Bydd yn gwybod, wrth gwrs, ar hyn o bryd, yng Nghyngor y Gweinidogion, mae Gweinidogion Cymru yn annerch Cyngor Gweinidogion Ewrop a chytunir ar fframweithiau Ewropeaidd ar y cyd rhwng yr aelod-wladwriaethau, gyda Llywodraethau datganoledig yn cael swyddogaeth. O dan y bartneriaeth wych o rai cyfartal sydd gennym yn yr ynysoedd hyn, ni fydd gan ein Llywodraeth unrhyw lais mewn unrhyw reoliad neu fframwaith y DU yn y dyfodol y maent yn penderfynu eu gosod arnom.