5. 4. Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:21, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Tua blwyddyn yn ôl—blwyddyn yn ôl i’r wythnos nesaf—cymerais ran mewn dadl ar stondin y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yn Sioe Frenhinol Cymru gydag arweinydd UKIP, Neil Hamilton, lle’r oeddwn yn nodi’n glir iawn bod Plaid Cymru yn cytuno â'r angen am fframweithiau’r DU wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn awyddus i weithio i adeiladu’r fframweithiau hynny ar gyfer amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd. Ond, gadewch i ni fod yn glir: nid yw’r Bil hwn yn cyflwyno fframwaith; mae'n darparu arddodi. Nid oes dim yn bradychu cymhellion y rhai a oedd am fynd â ni allan o'r UE yn well na'r dull o adael yr UE, gan eu bod wedi achub ar bob cyfle i beidio â datrys materion, fel y mae’r Blaid Geidwadol yn ei honni, nid i ddatrys ansicrwydd, ond i greu dryswch, i hau a chuddio eu diffyg cynllun, eu diffyg uchelgais a’u diffyg syniadau, ac, yn syml, i dynnu pŵer yn ôl o'r Senedd hon.

Mae hwn yn mynd i fod yn un o'r Bilau pwysicaf y bydd y Senedd yn San Steffan yn ei ystyried am rai degawdau. Mae'n sicr yn Fil pwysig i ni ei ystyried, ond gadewch i ni gymryd trosolwg o'r Bil. Os ydym yn seneddwyr yma, ac rwy’n gobeithio ein bod i gyd, yna'r egwyddor sylfaenol yw bod y Senedd yn gwneud y gyfraith ac mae Llywodraeth yn gweinyddu'r gyfraith yn unol â barn y Senedd. Rhaid cyfaddef, o bryd i'w gilydd, byddwch yn dirprwyo pwerau i Weinidogion drwy ddeddfwriaeth ddirprwyedig benodol, ond yr hyn sy’n drawiadol am y Bil hwn yw nerth a chwmpas y pwerau a roddwyd yn uniongyrchol i Weinidogion. Mae'r rhain yn cynnwys y pwerau Harri’r VIII enwog sydd nid yn unig yn ceisio diwygio neu ddiddymu cyfraith yr UE a gedwir, ond Ddeddfau Seneddol eraill a Deddfau’r Senedd hon hefyd. Mae hynny’n mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn a fynnir o unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus.

Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi a ddywedodd mewn adroddiad diweddar ei fod yn ofni y byddai’r Bil, pan gâi ei gyhoeddi, yn peri ‘trosglwyddiad enfawr’—eu dyfyniad nhw—‘trosglwyddiad enfawr’ o bŵer o'r Senedd i'r Llywodraeth. Dyna'n union y mae’r Bil hwn yn ei wneud, ond nid dim ond o Senedd San Steffan i Lywodraeth San Steffan, ond o’r Senedd hon i Lywodraeth San Steffan.

A phryd oedd y tro diwethaf y cafodd darn o offeryn statudol ei wrthod gan Senedd San Steffan? Pryd oedd y tro diwethaf y cafwyd craffu ar y darnau hyn o is-ddeddfwriaeth ddirprwyedig ac y’u gwrthodwyd gan San Steffan? Wel, byddaf yn dweud wrthych pryd: 1979. Dyna oedd y tro diwethaf i offeryn statudol gael ei wrthod. Rydym wedi gwrthod offerynnau statudol yma, ond dyna'r tro diwethaf i San Steffan eu gwrthod. Felly, rydych yn rhoi’r holl bŵer hwn i Weinidogion San Steffan heb unrhyw reolaeth; i bob pwrpas, dim rheolaeth seneddol. Ac, wrth gwrs, mae'r Bil yn codi materion gwirioneddol yma, ac yma rwy’n credu mai’r peth gorau y gallaf ei wneud yw dyfynnu o ddadansoddiad cyfraith gyhoeddus y Bil. Ac rwy’n dyfynnu i ddechrau:

Ar hyn o bryd, mae deddfwrfeydd datganoledig yn cael eu gwahardd rhag gwneud pethau sy'n torri cyfraith yr UE— sydd wedi’i ysgrifennu yn ein Deddfau Cymru sylfaenol ni wrth gwrs— hyd yn oed os yw’r peth y maent yn dymuno ei wneud yn ymwneud â phwnc sydd wedi'i ddatganoli. Pan fydd y DU yn gadael yr UE, yn ddiofyn, bydd y cyfyngiad hwnnw yn mynd—i bob pwrpas gan achosi pwerau i lifo o Frwsel i'r prifddinasoedd datganoledig .... Ond— mae’r dadansoddiad yn parhau mae’r Bil yn codi gwyriad, yn darparu bod pwerau a ddychwelwyd, hyd yn oed pan maent yn ymwneud â phynciau datganoledig, yn lle hynny yn mynd i Lundain.

Nid dadansoddiad Plaid Cymru yw hynny. Nid dadansoddiad y Blaid Lafur yw hynny. Dyna ddadansoddiad athro cyfraith gyhoeddus o'r hyn y mae’r Bil hwn yn ei wneud. A dyna pam, wrth gwrs, mae angen cymal—wel, nid wyf i ei angen—ond dyna pam y mae'r Ceidwadwyr eisiau cymal 11 yn y Bil. Os nad oedd y Bil yn gwneud unrhyw beth, os nad oedd gadael yr UE yn adennill y pwerau hyn yn uniongyrchol i ni, pam rhoi cymal 11 i mewn yna? Rydych ond yn rhoi cymal 11 i mewn yna, oherwydd eich bod yn gwybod yn iawn beth sy'n mynd i ddigwydd pan fyddwn yn gadael yr UE. Ni fydd y pwerau hynny yn stopio yn rhif 10 neu rif 11 Downing Street, neu unrhyw le yn Whitehall; byddant yn dod yn syth i lawr y Tafwys, drwy'r Cotswolds ac yn syth i lawr afon Hafren atom ni. Dyna beth fydd yn digwydd mewn gwirionedd. Dyna pam mae cymal 11 yno, gan fod y Llywodraeth Geidwadol yn gwybod beth fyddai'n digwydd.

Gadewch i ni droi yn fyr iawn at effaith amgylcheddol hyn. Os byddwn yn caniatáu i’r Bil hwn fynd drwyddo yn ei ffurf bresennol, Michael Gove fydd yn penderfynu ar yr amgylchedd ac amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Gellid yn hawdd penderfynu ar gnydau GM, na chaniateir ar hyn o bryd yng Nghymru trwy fframwaith yr UE, drwy'r fframwaith hwn. Gellid yn hawdd ganiatáu neonicotinoids, y plaladdwyr gwenyn a waharddwyd ers 2011. Mae Michael Gove yn awyddus i ddod â nhw yn ôl, mae e’n dymuno caniatáu i blaladdwyr gwenyn gael eu chwistrellu; gallai wneud hynny dan y fframwaith hwn. Llygredd aer—yr ymladdon ni yn ei erbyn yma yng Nghymru—mae gan y Llywodraeth Geidwadol agwedd wael iawn tuag at lygredd aer a allai yn hawdd wrthwneud dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop sydd wedi arbed ac wedi helpu i lanhau llygredd aer yma yng Nghymru. Ac mae TB mewn gwartheg, a godais gyda'r Prif Weinidog ddydd Gwener, yn rhan o raglen UE y cytunwyd arni ar gyfer dileu TB. Os bydd Llywodraeth San Steffan yn credu y byddai'n well ar gyfer bargen fasnach gael difa moch daear ledled Cymru, gallai wneud hynny yn rhwydd o dan y Bil hwn. Mae'r Bil hwn yn fygythiad gwirioneddol, nid yn unig i’n cyfansoddiad, mae'n fygythiad gwirioneddol i'n bywydau bob dydd.