Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Mae gan y banc datblygu gynllun pum mlynedd uchelgeisiol i gynhyrchu dros £1 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer cefnogi economi Cymru. Bydd yn helpu busnesau i gefnogi dros 5,500 o swyddi y flwyddyn. Bydd y banc datblygu yn cynyddu'r cyllid sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig yn sylweddol hyd at £80 miliwn y flwyddyn o fewn pum mlynedd, o'i gymharu â £56 miliwn yn 2016-17. Bydd yn cynyddu’r effaith ar economi Cymru gan dros £170 miliwn y flwyddyn erbyn 2021-22, â chymryd trosoledd sector preifat i ystyriaeth. Mewn blynyddoedd diweddar, mae'r ddarpariaeth cyllid a anelir at ficrofusnesau wedi treblu o £6 miliwn i £18 miliwn. Mae hyn wedi caniatáu i fusnesau sydd â llai na 10 o weithwyr fenthyca yn gyflym ac yn effeithlon gyn lleied â £1,000 hyd at £50,000. Bydd y banc datblygu yn parhau i roi blaenoriaeth i’r rhan bwysig hon o’r farchnad yng Nghymru, sydd hefyd yn guriad calon ein heconomi wledig, a byddaf yn dweud rhagor am hyn maes o law.
Mae'r banc newydd yn datblygu diwylliant o welliant parhaus. Gan weithio gyda Busnes Cymru, bydd yn gwella ei wasanaethau ar-lein i gwsmeriaid, gan helpu mwy o gwmnïau i elwa’n fwy effeithlon. Bydd y banc nid yn unig yn ei gwneud yn haws i gael gafael ar y cynhyrchion ariannol presennol, ond bydd hefyd yn nodi anghenion busnes i’r dyfodol ac yn creu cynhyrchion newydd sy’n addas. I helpu â hyn, mae banc datblygu Cymru eisoes yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Prifysgol Caerdydd a sefydliadau academaidd eraill i ddeall yn well y materion ariannol sy’n wynebu busnesau bach a chanolig, ac i ddatblygu datrysiadau newydd sy’n briodol.
Rwyf yn sicr fy marn na ddylai'r banc newydd golli golwg ar ei brif swyddogaeth sef darparu arian â rheolaeth. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid llenwi bwlch ochr yn ochr â chyllidwyr y sector preifat, i ganiatáu taro bargeinion na fydden nhw’n gallu digwydd fel arall, a darparu ystod lawn o gymorth rheoli yn ogystal â chyllid syml. Wrth gymeradwyo’r cynlluniau uchelgeisiol hyn heddiw ar gyfer y banc datblygu, rwy’n falch o weld y bydd gan y banc bresenoldeb ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd gwledig ledled Cymru lle mae methiant y farchnad yn y sector bancio ar ei amlycaf. Gan gydnabod ei swyddogaeth o ran Cymru benbaladr, mae'r banc wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau lansio dros y wlad yn ystod mis Hydref.
Mae'r banc datblygu yn elfen bwysig o strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru fwy ffyniannus a diogel , fel y nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Bydd yn wahanol i Gyllid Cymru, nid yn unig o ran y raddfa uwch o gyllid fydd ar gael i fusnesau yng Nghymru, ond hefyd o ran cymorth busnes gwell wrth gydweithio â Busnes Cymru. Mae'r sefydliad eisoes yn rheoli gweithrediadau sylweddol ar ran adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru, yn fwyaf nodedig Help i Brynu, sydd yng nghylch gwaith fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Aelod Cynulliad, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Rwyf hefyd o’r farn bod posibilrwydd, er hynny, i’r banc datblygu ymestyn ei ddarpariaeth o wasanaethau ariannol eto yn y dyfodol, i gefnogi adrannau eraill Llywodraeth Cymru i ddatblygu datrysiadau arloesol a chosteffeithiol.
Mae'r broses o drosglwyddo Cyllid Cymru i'r banc datblygu ar y gweill eisoes ar sawl cyfrif, gan gynnwys cyflwyno nifer o gronfeydd newydd a chynyddu’n sylweddol gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig, yn awr ac i’r dyfodol, er enghraifft, cronfa olyniaeth rheoli, cyllid i egino technoleg newydd a chronfa cyfalaf gweithio i gefnogi busnesau sy'n tyfu’n gyflym. Hefyd, mae gwaith yn cael ei wneud ar sefydlu uned wybodaeth newydd; gan greu cronfa gydfuddsoddi angel gyda chymorth cysylltiedig; datblygu brand newydd ar gyfer y banc datblygu; a gwella rhyngweithio gyda chwsmeriaid ar-lein, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gael cyngor a chyllid ar-lein.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i sefydlu pencadlys banc datblygu Cymru yn y gogledd erbyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd gan y banc bresenoldeb rhanbarthol i gefnogi patrwm rhanbarthol yr adran. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes i nodi safleoedd addas yn Wrecsam a’r cyffiniau, lle mae'r banc yn anelu i gynyddu ei staff i 50 yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Heddiw, hyfrydwch i mi yw cadarnhau fy mod wedi cymeradwyo sefydlu’r gronfa buddsoddi hyblyg Cymru newydd gwerth £100 miliwn. Caiff y gronfa ei rheoli gan y banc datblygu, ac fel yr awgryma’r enw bydd yn gwbl hyblyg. Bydd yn darparu cyfuniad o ddewisiadau dyled, mesanîn a chyllid ecwiti yn amrywio o £25,000 hyd at £5 miliwn. Bydd yn cynnig benthyciadau â thelerau o hyd at 10 mlynedd, i gydnabod sefyllfaoedd lle mae busnesau bach yn gofyn am gyfalaf tymor estynedig. Fel y crybwyllais yn gynharach, bydd microfusnesau hefyd yn gallu elwa ar y gronfa hon. Mae'r pecyn £100 miliwn o gymorth hyblyg yn ychwanegol at y cyhoeddiad a wneuthum y llynedd i greu cronfa busnes Cymru gwerth £136 miliwn. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod am roi £35 miliwn arall i mewn i'r gronfa, gan ei chynyddu i £171 miliwn.
Y llynedd, cyhoeddodd Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, £230 miliwn ar gyfer ail gam y cynllun Cymorth i Brynu. O'i gymryd ochr yn ochr â buddsoddiad uniongyrchol y banc a throsoledd sector preifat, mae’r arian hwn yn sail i uchelgais y banc o gynhyrchu mwy na £1 biliwn o gymorth buddsoddi yn economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd banc datblygu Cymru yn gynyddol ariannu ei hunan. Mae'r model busnes yn cymryd na fydd angen unrhyw gymorth grant o bwrs y wlad arno mwyach o'r flwyddyn nesaf ymlaen ar gyfer costau gweithredol. I grynhoi, mae banc datblygu Cymru yn sefydliad sy’n gonglfaen buddsoddi a chymorth busnes. O ystyried maint ac ehangder cynyddol ei arbenigedd, mae mewn sefyllfa dda i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd y byddwn yn eu hwynebu’n anochel, a dod â mwy o ffyniant a diogelwch i Gymru.