Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch, Llywydd. Mae hi bron yn 20 mlynedd i'r diwrnod ers y bleidlais ym 1997 i sefydlu'r sefydliad hwn, ac mae’n rhaid i dymor newydd ddod â phennod newydd yn hanes Cymru. Prif Weinidog, ni wnaf i yn bersonol fyth anghofio’r fuddugoliaeth, pan wnaeth cymaint ohonom ni yn y Siambr hon, a’r tu allan, helpu i sicrhau buddugoliaeth i'n gwlad ar y noson honno. Mae llywodraethu ein hunain yn fuddugoliaeth ynddi'i hun. Nid oes unrhyw wlad arall wedi llywodraethu un arall yn dda.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn wahanol sefydliad i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n cytuno â Ron Davies pan ddywed fod angen i Weinidogion ofyn cwestiynau anodd i’w hunain ynghylch cyflawniad. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ef?