Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 19 Medi 2017.
Prif Weinidog, rwy'n deall na ofynnwyd i’r un claf, yr un gweithiwr proffesiynol meddygol na’r un aelod o staff, roi cyfweliad ffurfiol yn ystod yr adolygiad. Mae hynny, does bosib, yn annerbyniol. A allwch chi gadarnhau y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cymryd tystiolaeth gan glinigwyr, gan gleifion ac, yn anad dim, gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad a ganiataodd i'r trychineb ddatblygu ac a arweiniodd yn y pen draw at y gŵr hwn yn cael ei ddedfrydu i 21 mlynedd yn y carchar?