<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:46, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Yr ateb i'r cwestiwn yw 'gwnaf', wrth gwrs. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr ymchwiliad ei hun (a) yn annibynnol a (b) yn gadarn. Nid wyf yn siŵr a yw'n dweud, yn y gorffennol, na chyfwelwyd digon o bobl, neu a yw hynny'n digwydd nawr, ond pa bynnag ffordd, byddaf yn sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried i sicrhau bod y mater hwnnw'n cael sylw. Ond mae'n amlwg yn bwysig bod y canfyddiadau’n cael eu hystyried yn gadarn ac y gall pawb yn y Siambr hon eu cefnogi.