Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 19 Medi 2017.
Dylid teilwra mewnfudo yn ôl anghenion y DU. Targedau—. Mae'n artiffisial. Beth yw pwynt targedau? Gadewch i ni archwilio'r sefyllfa honno. Dywedwch, er enghraifft, ein bod ni’n dymuno recriwtio mwy o feddygon i GIG Cymru ond y dywedwyd wrthym, 'Mae'n ddrwg gennym, rydym ni wedi cyrraedd y cwota ar gyfer eleni'. Nid yw hynny’n gwneud dim synnwyr. Pam ar y ddaear fyddai hynny’n bolisi synhwyrol i unrhyw Lywodraeth ei fabwysiadu? Felly, rydym ni wedi cynnig barn ar fudo. Nid ydym yn gwybod beth yw barn Llywodraeth y DU eto. Dyma ein cynnig ni o ran sut yr ydym ni’n credu y dylai'r system edrych, ond mae'n hollbwysig, wrth gwrs, bod y polisi hwnnw’n cael ei deilwra i'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar y DU, nid targed artiffisial.