Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 19 Medi 2017.
Onid yw'r Prif Weinidog yn gweld efallai bod y rhesymau pam mae’n ymddangos ein bod ni’n ddibynnol ar weithwyr mudol yn ddeublyg? Yn gyntaf, prin yw’r cymhelliad i hyfforddi pobl leol ar gyfer swyddi pan ei bod yn hawdd iddyn nhw fewnforio gweithwyr parod a chymwysedig. Ac, yn ail, mae tâl ac amodau mor wael mai dim ond gweithiwr mudol o wlad sydd â safonau byw sy'n waeth na'n rhai ni sy'n barod i ddioddef camfanteisio fel hyn. Beth ydych chi'n mynd i’w wneud i wrthdroi'r ddibyniaeth ar weithwyr yr UE a gweithwyr mudol?