Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch am yr ateb yna. Roedd rhai ohonom ni yn rhan o’r cyfarfodydd yna hefyd. Ond mae’n wir i ddweud bod y digwyddiad yma, y tirlithriad yma, wedi bod yn dipyn o ergyd i deuluoedd yn lleol, ac wedi creu cryn dipyn o ansicrwydd hefyd yn ardal Ystalyfera. Gan fod hyn yn ddigwyddiad anarferol iawn, heb ei debyg, a wnewch chi fel Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad cyhoeddus heddiw i roi help ariannol ychwanegol i gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddelio efo’r mater, yn ogystal ag unrhyw gronfeydd Ewropeaidd sydd yn agored i ni i ddelio efo’r sefyllfa unigryw yma?