<p>Rhwydwaith Metro i Fae Abertawe</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:06, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Gan fod Llywodraeth Theresa May wedi cefnu ar ei haddewid i drydaneiddo’r rheilffordd i Abertawe a'r gorllewin, mae hyn wedi rhoi pwyslais pendant ar gysylltedd holl ddinas-ranbarth bae Abertawe. Rwy’n croesawu’r gefnogaeth i’r cysyniad ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern, cydgysylltiedig. Rwy'n credu mai’r hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw astudiaeth o ddichonoldeb fanwl fel y gallwn ddeall yn iawn sut y gall cymunedau yn etholaeth Llanelli gysylltu â chymunedau eraill ar draws y dinas-ranbarth trwy reilffordd, bysiau a theithio llesol.