<p>Rhwydwaith Metro i Fae Abertawe</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, bod y fargen ddinesig yn cael ei hysgogi gan awdurdodau lleol ac nid gennym ni. Mae'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ond cyfrifoldeb awdurdodau lleol drwy gydweithio yw blaenoriaethu ac ymgysylltu. Fodd bynnag, yr hyn a wnaf yw rhannu eu sylwadau â'r awdurdodau lleol a gofyn iddyn nhw beth maen nhw'n ei wneud i ymgysylltu ag ABP yn benodol—mae wedi gofyn am hynny—a byddaf, wrth gwrs, yn rhannu'r ymateb hwnnw gyda hi.