Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 19 Medi 2017.
Ydw. Wrth gwrs, fe fydd y pwerau yn dod i ni yn ystod y misoedd nesaf, a bydd cyfle wedyn i ystyried ym mha ffordd y dylai bysiau gael eu rheoli. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod yna achos cryf dros sicrhau bod system yn cael ei ailsefydlu lle mae’n bosib i gynghorau redeg gwasanaethau yn y pen draw—eu hunain neu drwy ddefnyddio ‘franchise’. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n moyn sicrhau bod mwy o reolaeth dros fysiau lleol na sydd wedi bod yn wir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.