Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 19 Medi 2017.
Bydd, bydd angen iddi. Ceir nifer o ffyrdd y gallwch chi ddarparu metro: rhai fel rheilffyrdd trwm, rhai fel rheilffyrdd ysgafn, bysiau cyflym a’r posibilrwydd o lonydd bysiau penodedig. Ceir llawer iawn o ffyrdd lle gellir cyflwyno system metro ac mae'n hynod bwysig bod unrhyw astudiaeth yn gallu ystyried technoleg fodern sy'n dod i'r amlwg, yn enwedig er mwyn hwyluso dewisiadau cludiant cyflymach i'r cyhoedd.