Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch am yr ateb yna. Yn ddiweddarach heddiw, wrth gwrs, byddwn yn trafod yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, sydd eisoes wedi nodi potensial technoleg gwybodaeth a thechnoleg gwyddor bywyd arall na fanteisiwyd arno’n llawn o ran diwygio'r gwasanaethau hynny, ac i mi, mae hyn yn cyfeirio’n uniongyrchol at fargen ddinesig bae Abertawe. Pa drafodaethau diweddar ydych chi wedi eu cael gyda'r arweinwyr llywodraeth leol ynglŷn â phennu'r strwythur llywodraethu, gyda chynrychiolaeth gytbwys o'r sector preifat—soniasoch am y porthladdoedd yn gynharach—fel y gallwn weld rhywfaint o weithgarwch cyflymach ar y fargen?