Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 19 Medi 2017.
Jest ar y pwynt yna, mae datblygiad y morlyn llanw hefyd yn mynd i gyfoethogi cyfleoedd ar gyfer porthladdoedd, rwy’n meddwl, yn ardal dinas-ranbarth bae Abertawe. Roeddwn i’n falch o fod mewn derbyniad wythnos diwethaf yn San Steffan gyda’r Gweinidog, Ken Skates, a oedd yn trafod y cyfleoedd ar gyfer ein porthladdoedd ni. Pa mor bwysig yw e fod ynni o’r môr, pa bynnag ffordd mae’n cael ei ddatblygu, yn rhan o gryfhau y cyfleoedd ar gyfer porthladdoedd, a chyfleoedd hefyd i gyfoethogi cytundeb bae Abertawe?