Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 19 Medi 2017.
Llywydd, ddoe gwnaethom ni ddathlu, wrth gwrs, 20 mlynedd ers y bleidlais ‘ie’ yna a ddaeth â datganoli i Gymru. Roedd e’n gyfle i edrych yn ôl ac i ystyried pa mor bell yr ydym ni wedi dod ers dyddiau’r Swyddfa Gymreig, amser pan yr oedd Cymru yn ddim ond adran Llywodraeth arall. Mae hefyd, wrth gwrs, yn gyfle i edrych ymlaen i’r 20 mlynedd nesaf.