Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 19 Medi 2017.
Wel, mae hon yn ddogfen ddefnyddiol ac yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl hon. Ond, o'r ffordd y mae'r Ysgrifennydd cyllid ac eraill yn siarad am fewnfudo a'i bwysigrwydd i'r economi, tybed sut y gwnaethom ni lwyddo i oroesi cyn y flwyddyn 2004, pan gafodd cyfyngiadau ar symudiadau o wledydd dwyrain Ewrop eu llacio’n sylweddol neu eu diddymu. Y ffaith yw, sy'n anghyfleus i'w dadl nhw, wrth gwrs, am sawl degawd hyd at y mileniwm, roedd mudo net cyfartalog i'r Deyrnas Unedig tua 50,000 y flwyddyn. Ers 2004, mae'r cyfartaledd wedi bod yn 225,000 y flwyddyn ar gyfer mudo net. Nawr, mae hynny'n gynnydd blynyddol enfawr yn ychwanegol at yr hyn yr ydym wedi'i brofi trwy weddill ein hoes. Credaf na all neb ddadlau’n gredadwy nad yw mewnfudo ar y fath raddfa a chyflymder yn sicr o roi pwysau a straen ar wasanaethau cyhoeddus, ar ddefnydd tir, ar drafnidiaeth, ar swyddi. Ar hyn o bryd, rydym mewn cyfnod economaidd cymharol ddiniwed, ond, pan fydd y rhod yn troi, fel y dichon y bydd, efallai y bydd pethau'n troi eto. Gyda chwymp yn y cyfraddau cyfnewid yn ystod y misoedd diwethaf, effeithiwyd yn gadarnhaol ar y ffigurau mudo net hyn yn barod, a oedd, ychydig fisoedd yn ôl, hyd draean o filiwn neu fwy—erbyn hyn i lawr i 0.25 miliwn, ond maen nhw’n dal i fod ar 0.25 miliwn. Pan gafwyd astudiaeth gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb dair blynedd yn ôl yn unig, dyna'r ffigwr a ddewison nhw ar gyfer y dyfodol hirdymor ar gyfer mudo net i Brydain. Camsyniad yw dweud, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad, neu, nid mewn datganiad, mewn ymateb i rywun yn gynharach, rwy'n credu, fod mewnfudwyr yn gwneud cyfraniad net ardderchog i ffyniant economaidd ym Mhrydain. Dim ond golwg tymor byr y gall hynny fod. Gan fod ymfudwyr yn tueddu i fod yn bobl ifanc, maen nhw'n dueddol o fod yn y cyfnod pan maent yn ennill eu bywoliaeth ac nid ydynt yn gwneud cymaint o ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd, fel ag y gwnânt wrth fynd yn hŷn, ac yn sicr, wrth gwrs, pan fyddant yn derbyn eu pensiwn. Os ystyriwch lif arian dros oes mewnfudwr, gwyddom o astudiaethau eraill a wnaed, a chyfeiriais at un yn gynharach yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog gan y Swyddfa ar gyfer Cyfrifoldeb y Gyllideb, fod 225,000 o fewnfudwyr net y flwyddyn, mae hynny’n ychwanegu 0.4 y cant i’r GDP ond hefyd yn ychwanegu 0.4 y cant i'n poblogaeth, ac felly does dim cyfraniad net o gwbl o ran GDP y pen.
Felly, nid wyf yn honni bod mewnfudwyr yn gost i'r wlad dros y tymor hir. Ond rwyf yn dweud hefyd nad ydyn nhw o fantais fesuradwy mewn gwirionedd. Felly, o ran lles cenedlaethol nid oes dadl y naill ffordd na'r llall. Ond mae anwybyddu graddfa a chyflymder mewnfudo presennol, rwy'n credu, yn peryglu ansefydlogrwydd mewn gwleidyddiaeth. Rydym wedi ei weld mewn rhannau eraill o Ewrop mewn ffordd annifyr, a dyna'r prif reswm pam yr wyf yn credu bod angen inni gael system briodol o reolaeth dros fewnfudo. Y paradocs yw, wrth gwrs, fod hyn yn ei le gennym ar gyfer gweddill y byd nad yw'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, os mai'r ddadl yw, gan fy mod yn tybio o'r hyn yr oedd Steffan Lewis yn ei ddweud funud yn ôl, mai peth da yw mewnfudo, a dylem gael mwy ohono, ac na ddylem roi cyfyngiadau arno o’r UE, pam na wnawn ni ond agor y llifddorau i weddill y byd? Bydd yr un dadleuon sy'n berthnasol i Ewrop yn berthnasol i weddill y byd hefyd. Mae yn Ewrop 450 miliwn o bobl, gan dynnu’r Deyrnas Unedig allan ohono. Mae gennym filiynau o bobl ar draws y byd a allai ddod i gyfrannu at economi Prydain pe byddem yn ymestyn yr un system o ddim rheolaeth sydd gennym ni o fewn yr UE i weddill y byd. Ni allwch ei chael hi’r ddwy ffordd. Naill ai rydych chi o blaid rheoli neu nid ydych o blaid rheoli. Os ydym o blaid rheolaeth o ran gweddill y byd, pam na ddylem ymestyn hynny i'r Undeb Ewropeaidd mewn modd synhwyrol? Nid wyf yn gwrthwynebu'n llwyr, mewn egwyddor, i gael systemau cwota rhanbarthol a chenedlaethol os oes modd eu gweithredu. Y cymhlethdod, wrth gwrs, yw bod y system o reoli mewnfudo sydd gennym yn y wlad hon yn anniben iawn. Nid oes gennym syniad pwy sy'n dod i mewn i'r wlad neu, hyd yn oed yn fwy felly, pwy sy'n ei gadael, ac ni allwn reoli symudiadau o fewn y Deyrnas Unedig. Felly—[Torri ar draws.] Wel, wrth gwrs, mae’n wir; nid oes gennym unrhyw fodd o wybod ble mae pobl. Yn y cyfrifiad diwethaf ychydig flynyddoedd yn ôl, nodwyd dros 0.5 miliwn yn fwy o bobl nag yr oedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei ddisgwyl, ac nid yw'r cyfrifiad ynddo’i hun yn dal dŵr. Felly, hyd nes y cawn ni systemau gweinyddol sy'n gallu ymdopi â'r cymhlethdodau y byddai hynny’n eu cyflwyno, mae angen i mi gael fy argyhoeddi.
Ond rwy'n credu bod hwn yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl, a chredaf ei bod yn rhywbeth y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ystyried. Os yw'n dweud na ellir rhoi hyn ar waith ac yn egluro pam, yna byddaf yn gwrthwynebu hynny. Ond, os gellir ei weithredu, a heb danseilio hanfodion yr hyn y mae angen inni ei gyflawni trwy reoli ein ffiniau, yr ystyriaf i’n hanfodol i genedligrwydd, cenedl annibynnol, sef bod yn alluog i reoli a phenderfynu pwy sy'n dod i mewn i’ch gwlad chi ac ar ba delerau. Fel arall, byddwch yn agor y llifddorau i weddill y byd hefyd, drwy gael—[Torri ar draws.] Wel—