Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 19 Medi 2017.
Wel, gadewch imi ddechrau gyda'r pwynt olaf, oherwydd nodais yn benodol yn fy natganiad y rhesymau pam rydym yn credu y dylai ein perthynas arbennig yn y dyfodol ag Ewrop gynnwys dull gwahaniaethol a ffafriol o ymdrin â mewnfudo i wladolion yr AEE a Swistir. Gwnawn hynny oherwydd y 40 mlynedd o hanes sydd gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bosibl—mae'n bosibl yn ddeallusol ac o ran polisi—i wahaniaethu rhwng polisi yr hoffech ei gael mewn cysylltiad â'r gwledydd hynny a'r polisi a fyddai gennych gyda gweddill y byd, ac rydym yn gwneud hynny yn ein papur.
Gadewch imi ddweud, Llywydd, nad yw ein papur yn anwybyddu am funud y pwysau na'r straen a grewyd, ym marn rhai cymunedau gan raddfa a chyflymder mewnfudo Rydym yn ceisio mynd i’r afael â hynny’n uniongyrchol. Rydym yn ceisio nodi ffeithiau'r mater. Rydym yn ceisio esbonio pam, yn ein barn ni, mae pobl o weddill y byd yn gwneud cyfraniad net sylweddol i fywyd yma yng Nghymru. Maen nhw'n gwneud hynny'n economaidd, a chredwn fod yn rhaid i'r Aelod weithio'n hynod o anodd i geisio dod o hyd i ddadl oedd yn ceisio tanseilio'r cynnig hwnnw. Byddwn i gyd yn hŷn ryw ddiwrnod, Llywydd, a heb fod yn gwneud yr un cyfraniad economaidd ag a wnawn ni nawr. Ond, yma ac yn awr, mae pobl o'r Undeb Ewropeaidd sydd yma heddiw yn sicr yn gwneud cyfraniad net i'n cyfoeth cenedlaethol, ac maen nhw’n gwneud llawer mwy na hynny. Ac nid y cyfraniad economaidd yn unig y maen nhw’n ei wneud; ond y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud ym mhob math o ffyrdd eraill. Ond nid ydym yn anwybyddu'r pryderon y mae pobl wedi eu hwynebu, hyd yn oed pan oeddech yn nodi'r ffeithiau, a dyna pam rydym ni'n rhoi pwyslais mor gryf yn ein papur ar sicrhau bod y camau diogelu a ddylai fod yno i bobl sy'n byw bywydau bregus yn economaidd a bod ganddyn nhw amheuon fod rhyddid symudiad wedi troi mor rhwydd yn rhyddid i gamfanteisio—. Rydym ni o’r farn bod angen cryfhau a gwneud yn fwy effeithiol y mesurau i ddiogelu'r bobl sydd eu hangen ac yn eu haeddu.
Rwy’n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ar y diwedd ynghylch gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb o ddifrif i'r papur hwn. Rwy’n credu os gwnân nhw ac os oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn rhoi anghenion economi’r Deyrnas Unedig ar frig eu rhestr pan ddaw yn fater o drafodaethau wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, y byddan nhw’n dod o hyd i lawer yma a fyddai’n eu galluogi i sicrhau'r canlyniad hwnnw.