Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch am y diweddariad hynny. Gwnaethoch chi ddweud yn eich ateb mai grŵp gorchwyl yr RSPCA oedd hwn. Roeddwn i eisiau cadarnhau a ydych chi yn mynd i fod yn cynnwys mudiadau eraill ar y grŵp gorchwyl yma, ac yn cymryd tystiolaeth gan y rheini yn y maes sydd wedi bod yn gweithio—gyda dim bwriad i danseilio’r RSPCA, ond, cyn yr RSPCA, mae nifer o grwpiau wedi bod yn lobïo am y gofrestr cam-drin anifeiliaid yma. A fyddech chi’n eu cynnwys nhw yn rhan o’r drafodaeth yma?
Ac rwy’n gweld bod Llywodraeth Cymru yn edrych mewn i restr cam-drin domestig. A ydych chi’n mynd i drafod y ddau beth yma gyda’i gilydd? Oherwydd, fel rydych chi’n cofio o gwestiynau gen i yn flaenorol, mae’r pethau yma, mae’r themâu yma, yn cyd-fynd, ac felly byddwn i’n meddwl y byddai hi’n syniad i chi gydweithredu yn hynny o beth, yn hytrach na’u bod nhw’n gweithio ar wahân.