<p>Sefydlu Cofrestr Cam-drin Anifeiliaid yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:32, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, rwyf fi’n cefnogi’r syniad o gyflwyno cofrestr cam-drin anifeiliaid hefyd, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am ei datblygiad wrth iddo ddigwydd. Wrth gwrs, un o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu’r gofrestr fydd penderfynu a fydd troseddwyr ifanc yn cael eu cofrestru, ac efallai y gallwch ddweud wrthym beth yw barn gychwynnol Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r mater hwn. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod yn rhaid i’r gofrestr gael effaith adeiladol yn hytrach na dinistriol ar droseddwyr ifanc, gyda llawer ohonynt, o bosibl, yn bobl ifanc sy’n agored i niwed.