Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch, Llywydd. Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y ddogfen ‘Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy’ i fod i ddod i ben ar y degfed ar hugain o’r mis hwn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn sylwadau gan lawer o bobl yn dweud bod hwn yn ymarfer enfawr o ystyried ehangder yr ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo a’r nifer o faterion sy’n aml yn wahanol iawn i’w gilydd. Mae wedi gwneud gwaith da iawn, yn fy marn i, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei chyfnod yn y swydd, o ran ymgynghori a bod yn agored i safbwyntiau pob un sydd â diddordeb ym mhob un o’r meysydd o dan ei rheolaeth. Ond o ystyried y pwysau a fu ar sefydliadau fel Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru ac eraill i ymateb i bob math o ymgynghoriadau eraill, a phopeth arall sy’n digwydd gyda Brexit ac yn y blaen, tybed a yw’n teimlo bod y cyfnod o amser a roddwyd yn yr achos hwn yn ddigonol i sicrhau y ceir yr ystod lawn o ymatebion er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau y gellid eu gwneud fel arall. A yw’n bosibl ystyried ymestyn y cyfnod ymgynghori hwn am ychydig bach rhagor o amser efallai?