Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 20 Medi 2017.
Yn anffodus, ni chefais gyfle i gyfarfod â’r criw. Nid wyf yn cofio beth ddigwyddodd—credaf fy mod mewn rhan arall o Gymru ar y pryd, felly ni chefais gyfle i gyfarfod â hwy, ond roeddwn yn ymwybodol fod Simon wedi cyfarfod â hwy. Rwy’n siŵr fod Simon Thomas hefyd yn ymwybodol fy mod wedi treulio diwrnod gyda Roseanna Cunningham, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio’r Tir o’r Alban. Daeth i lawr i Gaerdydd, yn bennaf i weld ynglŷn â’n hailgylchu, i weld beth y gallai ei ddysgu gennym. Cawsom drafodaeth ynglŷn â’r cynllun dychwelyd blaendal.
Rwyf wedi comisiynu astudiaeth o becyn neu gyfres o bethau y credaf y gallwn eu gwneud i leihau gwastraff pecynnu. Rwy’n awyddus iawn, fel y gwyddoch, i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu. Rydym yn drydydd drwy’r byd bellach. Rwy’n awyddus i fod yn gyntaf drwy’r byd. Felly, roedd yn ddefnyddiol iawn clywed beth y mae’r Alban yn ei wneud, ac fel y dywedais, rwyf wedi comisiynu’r astudiaeth hon, ac wedi i mi dderbyn yr adroddiad, gallwn benderfynu pa agweddau arni y byddwn yn eu rhoi ar waith.