Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 20 Medi 2017.
‘Ydy’ yw’r ateb cryno. Credaf fy mod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yr wythnos nesaf, ond nid wyf yn siŵr a yw hynny ar yr agenda. Ond yn sicr, mae’n rhywbeth rydym wedi dechrau ei drafod. Rwy’n ymrwymedig iawn i leihau sbwriel morol, ac efallai eich bod yn ymwybodol fod rhanddeiliaid wedi ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen ar sbwriel morol i fynd i’r afael â sbwriel morol yng Nghymru. Cyfarfûm â’r grŵp yn Saundersfoot yn ystod toriad yr haf. Mae gan Saundersfoot gynllun gwych lle mae ganddynt—ni allaf gofio beth rydych yn eu galw—rhyw fath o fyrddau ‘A’, lle y gall pobl fynd yno, gwisgo pâr o fenig, gafael mewn bag a mynd ati i gael gwared ar sbwriel oddi ar ein traethau ac yn y blaen, ac roeddwn yn meddwl fod hynny’n wych. Felly, credaf fod llawer o arferion da ar waith. Mae angen ei rannu, dyna i gyd. Bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld beth yw argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen.