Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr haf, cyhoeddwyd y trydydd cynllun gweithredu blynyddol o dan fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, ac yn eich rhagair, fe ddywedwch y bydd y flwyddyn sydd i ddod yn un heriol, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y gall pob un ohonom gytuno yn ei gylch, yn bendant. Nawr, tynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at y ffaith fod lle bellach i ystyried yr opsiwn o wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. A allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad yma yng Nghymru?