Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 20 Medi 2017.
Wel, tra bo Cymru yn argymell dull ‘gadewch i ni aros am San Steffan’ o weithredu, credaf ei bod yn drueni o’r mwyaf fod Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, wedi bwrw ymlaen â’r gwaith ac eisoes wedi cyflwyno Bil, sydd wrthi’n mynd drwy eu proses ddeddfwriaethol.
Nawr, mae blaenoriaeth arall a amlygwyd yn y cynllun gweithredu yn ymwneud â lles anifeiliaid ar adeg eu lladd. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â gosod teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn Lloegr, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y cedwir safon uchel o les anifeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys ar adeg eu lladd, ac a wnewch chi ymrwymo yn awr i weld teledu cylch cyfyng yn cael ei osod ym mhob lladd-dy yma yng Nghymru?