<p>Amddiffynfeydd Môr yn Hen Golwyn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:13, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad sydd wedi mynd i Fae Colwyn dros y blynyddoedd o ran sicrhau lefelau uwch o ddiogelwch rhag llifogydd ar gyfer y rhan benodol honno o’r arfordir, ond rydym wedi gweld y difrod y gall llifogydd o’r môr ei wneud pan edrychwn dros Fôr yr Iwerydd, o ganlyniad i’r stormydd ofnadwy sydd wedi creu llanast yn y Caribî ac yn Unol Daleithiau America, ac nid wyf yn dymuno gweld sefyllfa debyg yn digwydd yma yng ngogledd Cymru, yn Hen Golwyn. Fe wyddoch fod amddiffynfeydd rhag llifogydd ar y glannau yno yn diogelu rhannau hanfodol o seilwaith trafnidiaeth gogledd Cymru. Maent wedi cael eu hesgeuluso ers llawer gormod o amser. Gwnaed clytwaith o waith atgyweirio dros y blynyddoedd ac mae angen gweithredu er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Pa hyder sydd gennych y byddwn yn gweld cynllun ac y byddwn yn gweld gwaith yn dechrau ar welliannau sylweddol i bromenâd Hen Golwyn o fewn y ddwy flynedd nesaf?