<p>Cynnydd mewn Perthynas â Chefnogi Cymunedau yng Nghymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:21, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae grymuso yn sicr yn ymwneud â sicrhau bod pobl leol yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau wrth i ni symud ymlaen, a dyna pam fod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a Deddf cenedlaethau’r dyfodol gysylltiad agos iawn â’r broses o ymgysylltu â phob cymuned ac unigolyn a gynrychiolir ganddynt wrth symud ymlaen. Credaf fod holl egwyddor cyflogadwyedd, y blynyddoedd cynnar a grymuso yn un gyffrous i gymunedau. Sylweddolwyd nad yw Cymunedau yn Gyntaf wedi gweithio cystal ag y’i cynlluniwyd i wneud o ran codi cymunedau allan o dlodi. Credaf fod y rhaglen wedi gwneud gwaith gwych yn atal cymunedau rhag mynd yn dlotach, ond mae angen newid sylfaenol yn hyn o beth, a chredaf mai’r rhaglenni newydd sydd gennym ar waith a’r mecanweithiau cymorth sydd ynghlwm wrthynt fydd y profiad y bydd cymunedau lleol yn awyddus i’w gael wrth symud ymlaen.