Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 20 Medi 2017.
Wel, mae hwnnw’n newyddion da iawn, ac rwyf ond yn gobeithio, wrth ymateb yfory, y byddwch yn ystyried y pwyntiau a wnaed gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, sydd wedi awgrymu bod yna ddiffyg safleoedd bach ar gael a phrinder cyllid, sy’n atal busnesau bach a chanolig rhag cynyddu nifer y cartrefi newydd a ddarparant. Roeddwn yn meddwl tybed, yn ogystal â’ch cyhoeddiad yfory, a ydych wedi bod yn gweithio gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill i wneud yn siŵr fod yna ddull cyd-adrannol o weithredu ar yr hyn sydd, rwy’n credu, yn broblem ddifrifol iawn.