Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 20 Medi 2017.
Cymeradwyaf bwynt Eluned Morgan ynglŷn â’r angen am fwy o fusnesau adeiladu bach a chanolig fel sector allweddol sydd, mewn degawdau blaenorol, wedi darparu ar gyfer llawer o dwf. Un peth y gallech ei wneud yw atgynhyrchu’r cynllun yn Lloegr, lle y caiff grant y Trysorlys i awdurdodau lleol ei gynyddu yn ôl gwerth y cynnydd yn y dreth gyngor a ddaw gydag adeiladu tai newydd. Buasai hwnnw’n gymhelliant gwych.