5. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Recriwtio Meddygol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:39, 20 Medi 2017

Diolch, Dirprwy Lywydd. A allaf ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet ac Aelodau eraill am gyfraniadau arbennig iawn y prynhawn yma i ddadl aeddfed tu hwnt ar adroddiad sydd yn drylwyr, mae’n rhaid cyfaddef?

Yn amlwg, hoffwn ailadrodd pwysigrwydd recriwtio a chadw fel materion allweddol i ddyfodol y gwasanaeth iechyd achos mae’n rhaid i ni addysgu digon o feddygon yn y lle cyntaf, ac hefyd mae’n rhaid i ni gadw nhw yn y system. Mae yna her, fel roedd Hefin David yn ei awgrymu. Fi ydy’r meddyg cyntaf yn fy nheulu i, ac roedd hi yn her sylweddol i rywun fel fi allan o’r wlad i fynd i ysgol feddygol yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid i ni ei gwneud hi’n haws i bobl o le bynnag rydych chi’n dod i fynd i ysgol feddygol.

A allaf ddiolch i Angela ac i Rhun ac i Julie am eu cyfraniadau, yn ogystal ag, wrth gwrs, Caroline, Jeremy a Sian Gwenllian am ysgol feddygol Bangor, ac hefyd, yn naturiol, Hefin David hefyd? Ac un mater, gan fod yna lot o bwysleisio ar feddygon teulu a’r swyddi gwag a’r pwysau ar feddygaeth deuluol, un mater wnes i ddim sôn amdano yn fy nghyfraniad gwreiddiol oedd pwysigrwydd—. Hyd yn oed pe baem ni yn addysgu pob meddyg teulu sy’n graddio o’r ysgol feddygol sydd gyda ni rŵan, nid ydym yn hyfforddi digon o feddygon ar hyn o bryd hyd yn oed pe baem yn gallu cadw bob un ohonyn nhw o fewn y system. Nid ydym yn hyfforddi digon o feddygon rŵan. Mae’n rhaid cynyddu’r nifer; dyna’r holl sôn am ysgol feddygol ym Mangor.

Ond yr ail bwynt ar hynny ydy, wedi hyfforddi ac wedi i feddyg raddio, mae hefyd yn allweddol bwysig cadw nhw yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ym mha le bynnag y maen nhw. Hynny, yn sylfaenol, ydy mai ein meddygon ifanc ni nawr sydd wedi graddio rhyw ddwy, dair blynedd yn ôl sy’n gweithio yn ein hysbytai ni, rheini ydy’r meddygon iau, rheini ydy meddygon teulu y dyfodol, rheini ydy arbenigwyr y dyfodol, ac ar hyn o bryd maen nhw’n teimlo o dan straen anferthol. Ac mae hyn lawr i’r ffordd maen nhw’n cael eu trin yn aml gan reolwyr o fewn y gwasanaeth iechyd, achos mae’r meddygon ifanc yma wastad yn gorfod brwydro am amser bant o’u gwaith i astudio, i wneud gwaith ymchwil, brwydro i sefyll arholiadau, brwydro i gael gwyliau hyd yn oed, gyda phwysau parhaol i lenwi bylchau yn y rota ar alwad, ac mae’r swyddi yn hynod brysur yn barod. Rydym wedi clywed am y pwysau gwaith gan Caroline Jones ac eraill.

Ac ie, yn ogystal â’r pwysau gwaith yna, y ffordd maen nhw’n cael eu trin—gorfod brwydro am bob peth—mae yna hefyd ddyletswydd i ddweud y gwir pan mae pethau yn mynd o’i le, ond pan mae meddygon yn cwyno wrth reolwyr yn aml am ddiffygion yn y gwasanaeth, pan mae pethau yn digwydd na ddylai ddigwydd—dod yn ‘whistleblower’ felly—yn aml mae’r meddygon hynny hefyd mewn perygl o gael eu herlid eu hunain. Nawr, nid yw hynny yn dderbyniol. Mae’n tanseilio morâl meddygon hynod ymroddedig, ac o dan y fath bwysau gwaith a diffyg cefnogaeth gan reolwyr uwch eu pennau nhw, nid oes syndod bod ein meddygon ifanc ni yn gadael i weithio mewn llefydd eraill, ac nid ydynt yn cael y cyfle i ddod yn feddygon teulu yn lleol neu yn arbenigwyr yn lleol; maen nhw wedi gadael achos y ffordd maen nhw’n cael eu trin.

Felly, cynyddu a chadw y nifer o feddygon yn y gwasanaeth iechyd ydy yr her fawr. Mae diffyg meddygon a nyrsys yn dwyn pwysau enfawr ar y staff hynny sydd ar ôl, fel rydym wedi’i glywed eisoes. Ac ie, mae angen hyfforddi mwy o feddygon. Nid ydym yn hyfforddi digon yma yng Nghymru ar hyn o bryd i ddiwallu’r angen. Hyd yn oed, fel rwyf wedi dweud, pe baem ni’n gallu cadw pob un wan jac ohonyn nhw, nid ydym yn hyfforddi digon. Ac, ie, mae’n rhaid cael ysgol feddygol arall ym Mangor. Roeddem yn cael y dadleuon hyn bron i 20 mlynedd yn ôl rŵan pan roeddem ni’n rhan o’r broses o sefydlu ysgol feddygol newydd yn Abertawe. Un o’r camau cyntaf y gwnaeth y Cynulliad yma ei gymryd oedd cytuno efo’r syniad bod un ysgol feddygol i Gymru ddim hanner digon, ac rwy’n cofio y camau a’r dadleuon cynnar yna yn sefydlu ysgol feddygol yn Abertawe, ac rydym yn ailadrodd yr hanes rŵan—yr un un camau, yr un un dadleuon rydym yn eu cael. Ond rwy’n siŵr y bydd yna ysgol feddygol yn y pen draw ym Mangor. Hefyd mae gen i neges i rai o reolwyr y gwasanaeth iechyd i ymdrechu lawer yn galetach, gyda mwy o hyder, i gadw ac i edrych ar ôl ac, yn wir, i anwesu ein meddygon ifanc ni i’w cadw nhw yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a chadw rhai o’n meddygon mwyaf disglair a mwyaf dawnus ni yma yn y wlad. Diolch yn fawr i chi.