Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 20 Medi 2017.
Mae’r ddogfen ymgynghorol ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’, yn honni ei fod yn canolbwyntio ar egwyddorion galluogi a grymuso sefydliadau, staff, a dinasyddion. Fodd bynnag, mae hefyd yn argymell y dylid sefydlu’r hyn y mae’n ei ddisgrifio fel corff newydd cenedlaethol i roi llais i ddinasyddion yn lle ein cynghorau iechyd cymuned rhanbarthol, sy’n annibynnol ac felly’n gallu herio a chraffu ar y GIG ar ran cleifion, a byddai hyn yn creu bygythiad pellach o reolaeth ganoledig o’r brig i lawr.
Felly, rydym yn edrych gyda phryder gwirioneddol ar welliant Llywodraeth Cymru i’r cynnig hwn, sy’n ceisio dileu’r cyfeiriad at y pryderon eang a seiliedig ar dystiolaeth a ddaeth i’n sylw. O ganlyniad i hyn, mae ein cynnig yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi’i chwarae yn sicrhau atebolrwydd gwasanaeth cyhoeddus annibynnol a rhoi llais cryf i gleifion yng Nghymru, ac yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau llais cleifion a chymunedau ac yn lleihau craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.
Mae’r Papur Gwyn yn nodi y bydd rhai agweddau ar y trefniadau newydd yn cael eu seilio ar Gyngor Iechyd yr Alban ac yn gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, fel y noda gwelliant Plaid Cymru heddiw, gwelliant y byddwn yn ei gefnogi, roedd:
‘Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.’
Yn wir, pan fynychodd cyfarwyddwr a chadeirydd Cyngor Iechyd yr Alban Bwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban ym mis Ionawr, dywedodd cynullydd y pwyllgor, ‘Rwy’n credu mai bochdew diddannedd ydych chi. Nid wyf yn gweld ble rydych yn ychwanegu gwerth’, a bod ymgyrchwyr yn teimlo’n bell oddi wrth y broses o wneud penderfyniadau. Canfu’r pwyllgor cyfan ei bod yn amlwg nad yw Cyngor Iechyd yr Alban, ar ei ffurf bresennol, i’w weld yn gorff annibynnol ar y Llywodraeth. Efallai y bydd rhai’n dweud mai dyma sy’n denu Llywodraeth Cymru at y model hwn. Wedi’r cyfan, diddymwyd yr hawl i adolygiad annibynnol ganddynt o weithdrefn gwynion y GIG yn 2011, gan adael cwynion i gael eu hymchwilio’n unig gan y corff y cwynir yn ei erbyn, wedi’i ddilyn gan hawl i ofyn am adolygiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a oedd wedyn yn nodi cynnydd o 50 y cant yn nifer y cwynion am y GIG yng Nghymru dros y pum mlynedd ddilynol.
Mewn cam cadarnhaol ac arloesol, sefydlwyd cynghorau iechyd cymuned, neu CICau, yn 1974 dan Lywodraeth Geidwadol â dyletswydd statudol i gynrychioli buddiannau cadarnhaol y gymuned leol, a oedd yn cynnwys gweithredu fel eiriolwyr ar ran cleifion mewn cwynion yn ymwneud â’r GIG. Daethant yn fwrlwm o weithgaredd a chyflawniad. Ar ôl 26 mlynedd yn gweithredu fel unig gyrff gwarchod statudol y GIG dan arweiniad cleifion, diddymodd Llafur bob CIC yn Lloegr ar 1 Rhagfyr 2003. Fel y nododd Andy Burnham, Ysgrifennydd Iechyd Llafur wedi hynny yn Lloegr rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ‘Nid diddymu cynghorau iechyd cymuned oedd awr wychaf y Llywodraeth. Mae’n ymddangos ein bod wedi methu dod o hyd i rywbeth i gymryd lle cynghorau iechyd cymuned a wnâi’r gwaith yn dda. ‘ Ac fel y dywedodd yr Arglwydd Ustus Francis yn adroddiad Francis ar fethiannau difrifol mewn gofal yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford cyn 2009, ac rwy’n dyfynnu:
Roedd cynghorau iechyd cymuned... bron yn ddieithriad yn cael eu cymharu’n ffafriol yn y dystiolaeth â’r strwythurau a’u dilynodd yn Lloegr. Mae’n eithaf amlwg bellach bod yr hyn a ddaeth yn eu lle—dwy ymgais i ad-drefnu o fewn 10 mlynedd—wedi methu sicrhau llais gwell i gleifion a’r cyhoedd, ond yn hytrach ei fod wedi cyflawni’r gwrthwyneb.
Sefydlodd Llafur fforymau cyhoeddus i gleifion yn lle’r CICau yn Lloegr, a rhwydweithiau cyfranogiad wedyn a gafodd eu beirniadu ar y sail eu bod wedi’u cyfyngu gan ddiffyg pŵer go iawn a’u beirniadu’n aml am fethu cynrychioli eu poblogaethau lleol, a’u bod wedi’u llyffetheirio gan achosion o anghydfod mewnol a diffyg ymwybyddiaeth o’u gwaith. Sefydlwyd Healthwatch yn eu lle gan Lywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn 2012, yn cynnwys mentrau cymdeithasol annibynnol sy’n gyfrifol am gynrychioli cleifion ledled Lloegr ac ymdrin â phryderon lleol. Wynebodd Llywodraeth y DU yr her ar ôl sgandal Canol Swydd Stafford a chomisiynwyd adroddiad annibynnol Keogh ganddi, gan arwain at 11 o ymddiriedolaethau yn Lloegr yn cael eu gwneud yn destunau mesurau arbennig. Ond cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru a ysgrifennodd wedyn at Weinidog Iechyd blaenorol Llywodraeth Cymru ar ôl i’r cyngor gael ystadegau marwolaethau mewn ysbytai a ddangosai fod gan y tri phrif ysbyty yng ngogledd Cymru gyfraddau uwch na’r cyfraddau marwolaethau disgwyliedig. Ar ôl i’r Gweinidog ddatgan bod y penderfyniadau i gau ysbytai cymunedol yn y Fflint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn wedi cael eu cefnogi gan y cyngor iechyd cymuned, ysgrifennodd y cyngor iechyd cymuned ato hefyd yn mynegi pryderon ynglŷn â chadernid y wybodaeth a ddarparwyd gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, gwybodaeth a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu proses wneud penderfyniadau. Mae cynghorau iechyd cymuned yn gweithredu’n annibynnol ac yn anghyfleus yn y modd hwn yn gosod y cyd-destun i fethiant Llywodraeth Cymru yn awr i’w cynnwys yn eu cynigion.
Deallwn fod Llywodraeth Cymru, ddwy flynedd yn ôl, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, wedi penodi prif weithredwr bwrdd y cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru a wnaeth y cyflwyniad CIC i’r Papur Gwyrdd blaenorol, ‘Ein Hiechyd, Ein Gwasanaeth Iechyd’. Nid oes amheuaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gwadu hynny, ond serch hynny, dyna a roddwyd ar ddeall i ni. Rydym yn deall hefyd mai’r hyn a ddywedodd ef yw’r Papur Gwyn yn y bôn, na welodd y CICau eu hunain mo’r papur nes iddo gael ei gyflwyno, a bod y prif weithredwr wedi’i atal dros dro wedi hynny, ac yna’i ddiswyddo—ac mae hyn oll yn fater a gofnodwyd yn gyhoeddus bellach.
Hyd at y noson cyn cyhoeddi’r Papur Gwyn, roedd Llywodraeth Cymru yn dweud wrth y CICau eu hunain na fyddent yn cael eu heffeithio. Mae adroddiadau olynol wedi beirniadu CIC unigol, Abertawe Bro Morgannwg, a gâi ei gadeirio gan y cyn ddirprwy arweinydd Llafur ar gyngor Merthyr Tudful. Ond yn raddol, cafodd y feirniadaeth honno ei hestyn—yn anghywir—i pob CIC ar draws Cymru.
Er bod mwyfwy o adnoddau wedi cael eu symud i fwrdd canolog y CICau yng Nghymru, mae’r cynghorau iechyd cymuned eu hunain wedi ceisio bwrw ymlaen â’u darpariaeth o wasanaethau cwyno ac eiriolaeth, ymweld a monitro, craffu a herio, ac ymgysylltu. Yn 2015-16, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru un archwiliad ysbyty yn unig o leoliadau bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, o’i gymharu â 600 o ymweliadau â wardiau ysbyty gan gyngor iechyd cymuned gogledd Cymru. Er bod pob ward yn cael ei harolygu bob chwe mis gan gyngor iechyd cymuned gogledd Cymru, cynhelir arolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ar gyfartaledd, bob saith i 10 mlynedd yn unig. Mae hyn i gyd mewn perygl.
Wrth siarad ddiwedd mis Gorffennaf am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, dywedodd y Sefydliad Ymgynghori mae’n destun pryder fod yna gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â’r broses arfaethedig ar gyfer cynnwys y cyhoedd ar fater newid gwasanaethau, fod yna gwestiynau pwysig y mae angen eu hystyried yn briodol a’u bod felly yn trefnu eu bwrdd crwn arbennig eu hunain yng Nghaerdydd.
Fodd bynnag, ar 1 Medi, roeddent yn datgan eu bod wedi dod ar draws problem ‘nad oeddent erioed wedi’i gweld o’r blaen’, gyda Llywodraeth Cymru yn nodi mewn modd unigryw y byddai mynychu digwyddiad trydydd parti o’r fath yn peryglu cywirdeb yr ymgynghoriad ac yn awgrymu y byddai’n anghywir i Reolwyr y GIG a chyrff cyhoeddus eraill fynychu unrhyw beth y gellid codi tâl amdano.
Mewn gwirionedd, mae’r Sefydliad Ymgynghori yn gorff annibynnol, arfer gorau, dielw.
Yna dangosodd cynnwys Facebook nad oedd y sefydliad a logwyd gan Lywodraeth Cymru i arwain ar ymgysylltu â’r cyhoedd ond wedi dechrau chwilio am leoliadau dair wythnos cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben. Mae un cyfraniad yn cynnwys yr ymadrodd ‘tight turnaround’. Mewn un arall, mae’r gweithiwr i’w weld yn awgrymu bod cael gwared â chynghorau iechyd cymuned yn anochel, er bod y cyfnod ymgynghori yn dal i fod ar y gweill. Ddoe’n unig, anfonodd y trefnydd e-bost yn gofyn am gymorth gan ei aelodau lle roedd niferoedd cyfranogwyr mewn digwyddiadau yn dal i fod yn isel—naw diwrnod yn unig cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben. Ymhellach, caiff aelodau a staff CICau eu gwahardd yn benodol rhag mynychu.
Roedd e-bost arall ddoe yn nodi bod pobl hŷn yng ngogledd Cymru yn cael cymorth pan fyddant ei angen gan swyddfeydd CIC Bangor a Wrecsam, ond yn aml iawn, maent yn troi at yn un o’r 72 o aelodau CIC unigol sy’n byw yng ngogledd Cymru. Mae’r gwirfoddolwyr di-dâl ond medrus hyn, sy’n llygaid a chlustiau’r cyhoedd, wedi bod yn allweddol hefyd yn tynnu sylw rheolwyr y bwrdd iechyd ac Aelodau’r Cynulliad at faterion pwysig fel y methiannau iechyd meddwl a rheoli heintiau a wynebwyd gennym. Mae 700,000 o gleifion yn byw yn yr ardal a wasanaethir gan Betsi Cadwaladr, sy’n gyfystyr ag un cynrychiolydd CIC yn unig ar gyfer pob 10,000 o bobl.
Mae’r Papur Gwyn yn cyfeirio at adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd y llynedd. Mae’r Papur Gwyn yn awgrymu y dylid cau CICau, ond nid oedd y Sefydliad yn dweud ar unrhyw adeg y dylai CICau gael eu cau. Cyngor y Sefydliad oedd y dylent esblygu. Nid oedd yr Athro Marcus Longley, y cyfeiriwyd ato hefyd, yn dweud yn ei adroddiad ef y dylid cau CICau, ond yn hytrach y dylent esblygu, a seiliodd ei gyngor ar y rhagdybiaeth y byddent yn parhau.
Mae CICau ledled Cymru yn cytuno bod angen corff newydd gyda chylch gwaith sy’n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ond maent wedi mynegi pryderon difrifol am y cynigion hyn gan Lywodraeth Cymru. Maent felly wedi cadarnhau eu bod yn cefnogi’r galwadau ar Lywodraeth Cymru yn ein cynnig i ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, yn dilyn ei fethiant i ymgysylltu’n briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru, ac i weithio’n fwy adeiladol gyda chynghorau iechyd cymuned ar gynigion yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i’r bobl. Er mwyn popeth, gwrandewch arnynt.