Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 20 Medi 2017.
A gawn ni ei adael tan y diwedd? Mae’n ddrwg gennyf. Fe’i cymeraf os bydd gennyf amser. Rwy’n dweud bod y carchar hwn yn rhan o atal aildroseddu. Ni fydd y carchardai hen ffasiwn hyn, gyda choridorau tywyll ac amgylchiadau cyfyng, yn helpu troseddwyr i droi eu cefnau ar droseddu, ac nid ydynt ychwaith yn rhoi i’n swyddogion carchar proffesiynol ac ymroddgar—[Torri ar draws.]—dof at hynny—yr offer a’r amgylchedd cywir i wneud eu gwaith yn effeithiol. [Torri ar draws.] Dof at hynny.
Yng ngharchar Parc, sy’n gartref i droseddwyr risg uwch, fe fyddwch wedi gweld bellach sut y mae’r amgylchedd modern hwnnw yn helpu carcharorion i ddod yn fwy gwydn yn bersonol ac yn llai tebygol o aildroseddu. Rydym wedi bod dros y ffeithiau droeon ynglŷn â’r lefelau uwch o salwch meddwl ac anllythrennedd, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ymhlith poblogaeth ein carchardai, ac mewn carchardai modern, adsefydlol y caiff llawer eu cyfle cyntaf go iawn i gael help. Mae’n anghywir inni ddisgrifio’r ‘uwch garchardai’ hyn fel y’u gelwir fel gofodau enfawr, digymeriad. Mae’n werth i’r Aelodau ailedrych ar sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet a Mark Isherwood yn ôl ym mis Gorffennaf, ar ôl i’r ddau ymweld â Charchar Berwyn. Maent hwy eu hunain wedi dweud bod y safle wedi’i lunio o unedau ar raddfa lai, a mwy dynol fel sy’n briodol i wasanaethau adsefydlu ac addysg wedi’u targedu, ac sy’n cael eu cynnig gan arbenigwyr trydydd sector a sefydliadau allanol eraill. Rwy’n rhyw gofio bod Coleg Cambria yng Ngharchar Berwyn, ac edrychaf ymlaen at weld manylion yr hyn a fydd yn cyfateb i hynny yn y carchar hwn.
Am y safle, rwy’n meddwl ei bod yn iawn i’r ddwy Lywodraeth ddangos eu prosesau meddwl ar hyn mewn gwirionedd. A yw Llywodraeth Cymru mor awyddus i wthio hyn yn ei flaen er mwyn cael gwared ar y darn hwn o dir o’r diwedd? Mae wedi bod ar y bachyn ers blynyddoedd. Rwy’n meddwl y byddai anwybyddu’r farn angerddol ynglŷn â hyn yn gamgymeriad. Gwnaed rhai pwyntiau defnyddiol iawn gan y grŵp ym Mhort Talbot, ac rwy’n siŵr y byddwn yn clywed rhagor heddiw, er gwaethaf y cywair diflas y soniais amdano’n gynharach. Ond rwy’n credu ei bod yn help i gael darlun llawnach, a dyna pam y cynigiais y gwelliant fel y’i cyflwynwyd.
Hoffwn i fy etholwyr gael y wybodaeth yn llawn a chywir, yn hytrach na gwneud penderfyniadau ar sail rhagdybiaethau mewn rhai achosion. I’r perwyl hwn, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal digwyddiad deuddydd o hyd yn fuan i glywed gan drigolion yn uniongyrchol—yn uniongyrchol—er mwyn trafod wyneb yn wyneb. Dyna gyfle i brofi pryderon ynglŷn ag agosrwydd at gartrefi, er enghraifft, er fy mod yn cofio i’r Prif Weinidog ein sicrhau ar yr un mater, fel yr effeithiai ar leoliad carchar Parc yn y gorffennol. Mae’n gyfle i brofi’r galwadau ychwanegol hynny ar wasanaethau lleol gan garcharorion a’u teuluoedd. Mae’n bwynt da, ond yn achos Berwyn, rwy’n credu bod arian newydd wedi dilyn i helpu i ateb y galw hwnnw. Mae’n gyfle hefyd i brofi’r honiadau y bydd rhwng 200 a 500 o swyddi yn hyn, yn ogystal â swyddi adeiladu. Oherwydd rwy’n credu ei fod yn bwynt teg mewn gwirionedd i ddweud y gallai rhai o’r swyddi hyn fod yn symud o ardaloedd eraill, ond nid wyf yn argyhoeddedig y bydd y pob un ohonynt yn symud, nac y byddai swyddi ategol a swyddi’r gadwyn gyflenwi—ac yn sicr, swyddi adeiladu—yn dod o’r tu allan i’r ardal. Nid wyf yn credu bod hynny’n wir yng Ngharchar Berwyn, ac mae Llywodraeth y DU wedi datgan bwriad clir i sicrhau y bydd cynifer o swyddi ag y bo modd yn lleol. Felly, rwy’n argymell y dylai etholwyr fanteisio’n llawn ar hyn cyn ymateb i’r ymgynghoriad statudol, ac rwy’n gobeithio hefyd y byddant yn ymateb o ddifrif.
[Torri ar draws.] O, mae’n ddrwg gennyf, mae fy amser wedi dod i ben.