Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 20 Medi 2017.
Wrth agor y ddadl hon y prynhawn yma, sefydlodd yr Aelod dros Orllewin De Cymru nifer o elfennau yn y drafodaeth, gan gynnwys effeithiolrwydd uwch garchardai yn lleihau cyfraddau aildroseddu a chynnig amgylchedd diogel i garcharorion ar gyfer adsefydlu, pa un a oes angen mwy o garchardai ar Gymru, ac anaddasrwydd y safle hwn ym Maglan ar gyfer y carchar newydd, fel y cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar 22 Mawrth. Ar hyn o bryd, nid yw rhai o’r materion hyn wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae perchnogaeth y tir arfaethedig, ac felly effaith y datblygiad, o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, ac fel yr Aelod etholaeth dros y safle hwnnw, ni fydd yn syndod i’r Aelodau yn y Siambr hon y byddaf yn canolbwyntio ar anaddasrwydd y lleoliad a’r effaith y byddai’r datblygiad yn ei chael ar fy nghymuned leol.
Fodd bynnag, rwyf am leisio fy mhryderon ynglŷn ag effeithiolrwydd dull Llywodraeth y DU o adeiladu mwy o uwch garchardai yn lle carchardai Fictoraidd gorlawn fel ffordd o gyflawni ei nod o leihau cyfraddau aildroseddu. Rwy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i unrhyw dystiolaeth, tystiolaeth empirig, eu bod mewn gwirionedd yn lleihau cyfraddau aildroseddu o ganlyniad i unrhyw adsefydlu gwell sy’n digwydd ynddynt. Felly, yn sicr, byddai’n werth i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder dreulio amser yn dadansoddi effeithiolrwydd yr uwch garchardai y mae eisoes yn eu gweithredu—CEM Berwyn, a Charchar Oakwood yn Birmingham—cyn symud ymlaen â’i chynlluniau arbed arian i greu rhagor ohonynt. Yn wir, ceir mwy o dystiolaeth fod yna broblemau hysbys gyda charchardai mawr. Hyd yn oed mor bell yn ôl â 1991, dangosodd yr Arglwydd Woolf y problemau, a chawsant eu dangos ymhellach mewn astudiaeth gan y prif arolygydd yn 2009, ac yn fwy diweddar mewn adroddiad damniol ar CEM Oakwood. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y rhain, a’r effaith gymdeithasol ar gymunedau a charcharorion, cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â gwerthu neu brydlesu’r tir yn ei pherchnogaeth ar gyfer datblygu uwch garchar.
Llywydd, fe symudaf ymlaen yn awr at anaddasrwydd y safle hwn, a pham rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â rhyddhau’r tir hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y carchar newydd hwn. Yn ei sylwadau agoriadol, nododd Bethan Jenkins lawer o’r heriau i’r dadleuon a ddefnyddiwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros y penderfyniad hwn, gan gynnwys sawl un a oedd yn galw am ystyriaeth yn ystod y broses gynllunio. Cytunaf â’r rheini ac fe ymhelaethaf ar rai ohonynt, ond ni fydd gennyf amser i wneud pob un ohonynt, yn anffodus.
Gadewch i ni ddechrau gyda’r ddadl dros yr economi, fel yr amlinellodd Adam Price eisoes ar un ystyr: un sy’n awgrymu bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn credu y bydd Port Talbot yn cymryd unrhyw swyddi, ni waeth beth. Wel, mae angen i ni arallgyfeirio’r economi leol, ac mae angen i ni wella dangosyddion y farchnad lafur—gwerth ychwanegol crynswth a diweithdra. Ond ni fydd y cynnig hwn yn gwneud hynny. Mae’r safle hwn o fewn parc menter glannau Port Talbot ac yn ardal sydd wedi’i chlustnodi i helpu’r economi i dyfu drwy annog busnesau sy’n bodoli eisoes, neu fusnesau newydd, i fuddsoddi mewn twf.