7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 6:09, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n falch o ddilyn cyfraniad cryf David Rees yno, oherwydd yn amlwg roedd yn sioc i bawb ohonom pan gyhoeddodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet, y bwriad i adeiladu uwch garchar a allai roi llety i 1,600 o garcharorion ym Maglan yn gynharach eleni. Ni welsom hynny’n dod. Yn amlwg, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o unrhyw drafodaethau cyn—