Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n derbyn bod Llywodraeth Cymru’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar gyfer pob busnes, ond yn eich ymateb i mi ym mis Mai fe wnaethoch dynnu sylw at y meini prawf a ddarparodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder i chi ar gyfer safleoedd. Un ohonynt oedd na ddylai fod yn orlifdir, ac eto fe wnaethoch gynnwys safle, sef y safle penodol hwn, sydd ar orlifdir. A allwch ddweud wrthyf pam y cafodd y safle hwnnw ei gynnwys?