Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 20 Medi 2017.
Mae’n ddrwg gennyf, rwy’n meddwl bod y chwarae ar eiriau neu’r dehongliad o’r hyn a ddywedais—. Os caf egluro’r safbwynt hwnnw, fel rwyf newydd ei wneud heddiw, rydym wedi cynnig 20 o safleoedd ar draws rhanbarth de Cymru, fel y byddem yn ei wneud ar gyfer unrhyw fusnes neu unrhyw ddatblygwr arall. Nid yw hynny’n anarferol o ran y ffordd y mae llywodraethau’n cyflawni busnes. Rwy’n credu—. Dai, a oeddech eisiau ymyrryd?