7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 6:35, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyngor, Llywydd. Y mater i ni yw, os daw cynnig ar gyfer y safle, fel y dywedais yn ystod fy nghyfraniad, mae’n dal i fod ar agor i gynigion gan fusnesau eraill. Nid ydym wedi ffurfio barn sefydlog ynglŷn ag a ddylai’r carchar fynd yn ei flaen neu a ddylai math arall o fusnes fynd yn ei flaen. Mae hynny’n gwbl arferol.