Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei ffigurau rhestr aros ar gyfer GIG Cymru, ac roedd y ffigurau’n dangos bod un o bob saith o bobl, neu 450,000 o bobl, ar restr aros yng Nghymru. Un o bob 14 yw’r ffigur hwnnw yn Lloegr. Ceir pwysau ar draws y Deyrnas Unedig pan ddaw i wasanaethau'r GIG, ac mae pawb yn cydnabod hynny. Wrth i ni gyrraedd misoedd prysur y gaeaf, a chyda'r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru, gyda phedwar o'r saith bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg o fwy na £30 miliwn, pa gymorth mae eich Llywodraeth yn ei roi i fyrddau iechyd i fynd i'r afael â'r niferoedd sy’n cynyddu’n gyflym sy'n aros ar restrau aros yma yng Nghymru ac, yn anad dim, y benbleth ariannol y mae llawer o BILlau yn ei hwynebu?