Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 26 Medi 2017.
Rwy'n siarad â busnesau, ac un o'r materion yn benodol y mae busnesau wedi tynnu ein sylw ato yw’r diffyg adeiladau addas lle y gallant fynd er mwyn dechrau gweithgynhyrchu. Un o'r materion yr ydym ni’n eu hystyried yw gallu darparu'r safle sydd ei angen arnynt, o'r maint cywir. Nid ydym yn gwneud hynny o ran adeiladu adeiladau gwag am ddim rheswm. Rydym ni wedi gwneud hynny drwy ymgynghori â busnesau, a gofyn i fusnesau beth maen nhw ei eisiau. Mae hynny mewn gwirionedd yn ffordd gadarn iawn o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na’r hyn y mae e’n ei alw’n hapfasnachol. Mae'n bell o fod yn hapfasnachol. Mae hyn yn seiliedig ar yr adborth yr ydym ni’n ei gael gan fusnesau.