<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 26 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Nid ydym erioed wedi gwrthod y gylchffordd fel syniad. Dim ond y trefniadau ariannol o'i hamgylch. Os gall y gylchffordd gyflwyno cynnig gwahanol, yna, wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth y byddem ni’n ei ystyried. Nid oes gennym ni wrthwynebiad mewn egwyddor, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw brosiect yn ystyried buddiannau trethdalwyr Cymru ac yn gallu dangos yn gadarn iawn ei bod yn bosibl darparu’r swyddi a addewir. Os bydd rhywbeth arall yn cael ei gynnig, yna wrth gwrs byddwn yn ystyried hynny i weld a yw'r amgylchiadau wedi newid.