Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddychmygu gwlad lle mae mega-garchardai yn cael eu lleoli yng nghanol ardaloedd menter, fel y’u gelwir? Neu a allwch chi ddychmygu gwlad sy'n cael ei disgrifio yn y pen draw fel Botany Bay yr unfed ganrif ar hugain ac fel gwladfa gosb? Wel, dyna eiriau Frances Crook, prif weithredwr uchel ei pharch yr Howard League.
Prif Weinidog, mae'n rhaid mai Cymru yw’r unig wlad yn y byd lle mae carchardai yn cael eu hamlygu fel offerynnau ar gyfer datblygu economaidd, yn hytrach nag fel rhan o system cyfiawnder troseddol gwlad. A ydych chi'n disgwyl i garchardai eraill gau os bydd carchar Port Talbot yn mynd rhagddo? Ac a allwch chi gadarnhau pa un a fydd yna gynnydd net mewn swyddi neu a ydych chi'n meddwl y bydd colled?