<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 26 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae hi'n dweud hanner y stori. Yn gyntaf oll, mae hi'n gwybod yn iawn nad Gweinidogion sy’n gyfrifol am drwyddedu; corff allanol sy’n gyfrifol— dyna'r holl bwynt—fel bod y wleidyddiaeth yn cael ei chymryd allan ohoni. Yr hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yn hyn yw bod un person wedi dweud y gallai fod problem yma. Wel, wrth gwrs, mae angen rhoi sylw i’r mater hwnnw, ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan yma gan fod y gwastraff o Wylfa yn mynd i Loegr, a byddai’n cau ar unwaith pe na byddai am waith ailbrosesu Sellafield.

Mae ganddi safbwyntiau ar ynni niwclear na fyddwn i’n eu rhannu efallai, ond mae'n rhy syml i ddim ond dweud, 'Wel, gwastraff niwclear sy'n cael ei allforio o Loegr i Gymru yw hwn.' Rydym ni’n allforio llawer mwy allan i Sellafield. Felly, nid wyf yn derbyn bod hwn yn fater mewnforio ac allforio. Lle mae gennym ni ynni niwclear, mae'n bwysig bod cyfleusterau gwaredu digonol, ond mae cyflwyno hyn fel brwydr syml rhwng Cymru a Lloegr yn anwybyddu'r ffaith bod gennym ni ein gorsaf bŵer niwclear ein hunain, ac nad oes gennym ni ein cyfleusterau gwaredu ein hunain; rydym ni’n dibynnu ar Loegr i ymdrin â'r gwastraff sy'n dod o Wylfa.