Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn heddiw i ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â nifer o ddatblygiadau trafnidiaeth yng Nglannau Dyfrdwy. Does dim angen dweud ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gwbl benderfynol i greu ffyniant a chefnogi datblygu economaidd ym mhob rhan o Gymru.
Ym mis Mawrth eleni, lansiais fy ngweledigaeth trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru a metro gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’r weledigaeth hon yn golygu creu system drafnidiaeth gyfannol o ansawdd da ar draws y rhanbarth gan gynyddu'r cyfleoedd economaidd trwy gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae gwella cysylltedd yn mynd y tu hwnt i'r ffin ranbarthol, a dyna pam yr wyf wedi sefydlu grŵp llywio trafnidiaeth sy'n dod â phartneriaid allweddol o ogledd Cymru, Glannau Mersi a Swydd Gaer ynghyd i gyflawni fy ngweledigaeth. Bydd y grŵp llywio yn cydgysylltu datblygiad rhaglen waith ar gyfer metro’r gogledd-ddwyrain yn ogystal â datblygu buddsoddiadau mewn rhannau eraill o'r rhanbarth. Dros y misoedd diwethaf, bu'r grŵp yn gweithio gydag awdurdodau lleol, sectorau busnes a chwmnïau bws a thrên i ddatblygu pecyn o fuddsoddiadau trafnidiaeth i'w darparu dros y misoedd nesaf.
Y prif bwyslais oedd creu canolfannau trafnidiaeth cyfannol mewn safleoedd cyflogaeth allweddol ledled y gogledd ac ardal ehangach y Mersi a’r Dyfrdwy. Yn y gogledd, mae'r canolfannau hyn yn ardaloedd Bangor, Abergele, Y Rhyl, Llanelwy, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Fy mwriad dros yr wythnosau nesaf yw cyhoeddi rhaglen o fentrau metro yng nghanolfan ardal Wrecsam, ond heddiw mae fy mhwyslais ar Lannau Dyfrdwy.
Heddiw, bydd fy natganiad yn cyflwyno fy mhenderfyniad ynghylch y dewis a ffefrir ar gyfer cynllun coridor Glannau Dyfrdwy, yn ogystal ag amlinellu mentrau ehangach sy'n cael eu datblygu yn ardal Glannau Dyfrdwy. Byddaf yn gwneud datganiadau pellach dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i esbonio fy nghynigion ar gyfer y canolfannau eraill.
Mae cyfuno trafnidiaeth yn ymwneud â chysylltu’r holl ddulliau trafnidiaeth, ac mae'r pecyn o fesurau yr ydym ni’n ei gynllunio ar gyfer Glannau Dyfrdwy yn darparu ar gyfer pob un o’r dulliau hynny ac yn gwella seilwaith a gwasanaethau. Yn bwysig, mae'r gwelliannau'n cefnogi’r cynllun Glannau Dyfrdwy a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan Gyngor Sir y Fflint. Hoffwn longyfarch yr awdurdod ar ei gynllun, sy'n nodi'r hyn sy’n angenrheidiol ei wneud yn y maes trafnidiaeth er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd. Mae'r pecyn o fesurau yr ydym ni’n ei ddatblygu yn gwneud llawer iawn i fodloni’r dyheadau sy’n rhan o gynllun Glannau Dyfrdwy.
Yn gyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi, ar ôl ystyried yr agweddau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mewn cysylltiad â chynllun coridor Glannau Dyfrdwy, ynghyd â chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gennym, fy mod wedi penderfynu mabwysiadu'r llwybr coch fel y dewis a ffefrir. Mae'r dewis hwn, sy'n cynnwys cynyddu’r capasiti ar yr A548 bresennol a ffordd newydd rhwng yr A55 a'r A548, yn fy marn i, yn mynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth yr oeddem ni wedi'u nodi o'r blaen yn yr astudiaeth gwelliannau cyfnod allweddol 2 i goridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548. Bydd y llwybr arfaethedig yn helpu i fynd i'r afael â'r tagfeydd parhaus a geir yn yr ardal, bydd yn gwella amserau teithio i fusnesau a thraffig cymudo, a bydd hefyd yn cryfhau'r cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd rhwng y gogledd, ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, Caer a thu hwnt. Bydd pentrefi fel Oakenholt a Northop Hall yn elwa oherwydd bydd llai o draffig ar yr A548 a’r B5125.
Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cynllun TR111 er mwyn gwarchod y llwybr dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cyfeirio pob cais cynllunio yn y dyfodol sydd yn agos i’r llwybr dewisol at Lywodraeth Cymru. Y camau nesaf fydd gwneud mwy o ymchwil a datblygu dyluniad rhagarweiniol. Yn arbennig, byddwn yn rhoi sylw manylach i’r materion amgylcheddol a pheirianneg, gan ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac edrych ar strategaeth o ran adeiladu cyffyrdd a dewisiadau ar gyfer ffyrdd ochr a mynediad. Bydd y dyluniad hefyd yn ystyried y gofynion a allai godi o ddatblygiadau mewn technoleg megis cerbydau cysylltiedig a rhai sy’n gyrru eu hunain. Mae'n hollbwysig bod yr hyn yr ydym yn ei gyflawni gyda'n buddsoddiad heddiw yn addas ar gyfer y dyfodol.
Yn dilyn y dyluniad cychwynnol, byddwn yn cyhoeddi Gorchmynion drafft o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Caffael Tir 1981. Mae'r Gorchmynion drafft yn cynnwys y pwerau i sefydlu llinell, addasu'r ffyrdd ochr, prynu tir a gweithredu unrhyw hawliau eraill sydd eu hangen arnom i gyflawni'r cynllun. Byddwn hefyd yn mynd ati i gyflwyno cynllun gwella ffordd A494 yr Afon Ddyfrdwy. Bydd y cynllun hwn yn ymchwilio i ddewisiadau a fydd yn datrys tagfeydd traffig sydd yn y lleoliad hwn o'r rhwydwaith ar hyn o bryd ac yn goresgyn y problemau sy'n ymwneud â pha mor rhwydd yw hi i ddefnyddio’r bont bresennol.
Mae ein gwaith datblygu i wella cysylltedd ar y rheilffyrdd hefyd yn symud i'r cam nesaf. Ar hyn o bryd rydym ni’n trafod gyda Network Rail y posibilrwydd o gomisiynu gwaith pellach ar orsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy newydd a chyd-leoli gorsafoedd Shotton uchaf a Shotton isaf. Bydd yr elfen olaf hon yn galluogi teithwyr sydd eisiau newid rhwng llinell Wrecsam a Bidston a phrif linell arfordir gogledd Cymru i wneud hynny’n rhwydd. Yn achos Parcffordd Glannau Dyfrdwy, mae hyn yn cynnig cyfle cyffrous i wella mynediad i'r parc busnes, cyflwyno darpariaeth parcio a theithio, a chyfleusterau ar gyfer traffig cludo nwyddau ar y ffyrdd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir y Fflint i gyflwyno'r cynigion hyn ymhellach.
Rwyf wedi rhoi cyllid i'r awdurdod lleol er mwyn ei gwneud hi’n haws teithio i lannau Dyfrdwy trwy ddulliau cynaliadwy. Mae dros £1 miliwn wedi'i ddyrannu i wella gwasanaethau bysiau ac i annog cerdded a beicio. Bydd rhan o'r arian hwn yn cael ei wario ar ddatblygu cyfnewidfeydd bysiau, mesurau blaenoriaethu bysiau ar goridor B5129 Shotton a'r seilwaith bysiau ar barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd gweddill y grant yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno llwybrau teithio gweithredol ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd hyn yn arwain at rwydwaith cyflawn o lwybrau beicio penodol ar bob ffordd fynediad ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gyda chysylltiadau di-dor gyda chanolfannau rheilffordd a bysiau. Bydd cyfleusterau diogel i adael beiciau yn rhan o ddyluniad y canolfannau cludiant. Caiff y ddarpariaeth a gynigir o ran beicio a cherdded ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ei defnyddio fel yr esiampl i arwain y gwaith o ddatblygu canolfannau gwaith allweddol eraill ledled y rhanbarth.
Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn ardal Glannau Mersi a’r Ddyfrdwy, a chyda chwmnïau bysiau, i ddatblygu cynllun partneriaeth ansawdd bysiau gyda'r nod o wella'r profiad teithio a chynyddu nifer y teithwyr. Rydym ni eisoes wedi buddsoddi £5.5 miliwn yn safle Porth y Gogledd i hwyluso datblygiad masnachol. Mae buddsoddiad ychwanegol o £4.7 miliwn wedi'i ymrwymo er mwyn parhau i adeiladu seilwaith ffyrdd ychwanegol, i ryddhau tir i'w ddatblygu a denu mwy o fusnesau i leoli ar y safle. Bydd y seilwaith hwn yn gwella cysylltedd trafnidiaeth i'r safle ac oddi yno.
Bydd yr holl fentrau yr wyf wedi'u disgrifio yn gwneud llawer iawn i fynd i'r afael â'r rhwystrau o ran gallu cael gafael ar y swyddi sydd ar gael yn ardal Glannau Dyfrdwy. Byddant hefyd yn ffurfio un o'r cerrig sylfaen a fydd yn darparu gweledigaeth metro gogledd-ddwyrain Cymru o system drafnidiaeth gyfannol sydd â chysylltiad da ac o safon uchel.