4. 4. Datganiad: Cynigion Trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:56, 26 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei sylwadau ac am ei gwestiynau? Rwy'n credu y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr yn croesawu cyhoeddiad heddiw. Mae llawer o Aelodau wedi bod yn galw’n gyson am fuddsoddiad yn y gogledd i liniaru'r tagfeydd, yn enwedig ar hyd y rhan hon o'r hyn sy’n briffordd economaidd allweddol. Rhof sylw i bob cwestiwn yn ei dro, gan ddechrau gyda'r cwestiwn diwethaf a ofynnodd Mark Isherwood ynghylch Parcffordd Glannau Dyfrdwy.

Rwy'n credu bod hyn yn cynnig cyfle enfawr i chwalu’r rhwystrau mae llawer gormod o bobl ifanc—yn wir, pobl o unrhyw oedran—yn eu hwynebu wrth geisio cael gwaith. Cyfeiriodd yr Aelod at yr ystadegyn bod 20 y cant o bobl yn methu mynd i gyfweliadau swyddi oherwydd nad oes cludiant cyhoeddus fforddiadwy neu ddibynadwy ar gael iddynt. Mae'r ffigur hwnnw'n cwmpasu holl ardal y Mersi a’r Dyfrdwy, ac mae'n rhan o'r cyfiawnhad dros edrych ar y fenter hon fel prosiect trawsffiniol i sicrhau y gall pobl yng Nghymru fynd i gyfweliadau ar gyfer swyddi nid yn unig yn y gogledd ond hefyd ar draws y ffin. Ac fe fydd yn hanfodol bod gorsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy wedi ei lleoli yn y parc diwydiannol. Mae'r dyluniad cychwynnol a'r cynlluniau ar gyfer y parcffordd—y llwybrau beiciau, y lonydd bysiau—wedi'u dylunio mewn modd sy'n galluogi pobl i symud o un modd o gludiant i’r llall ac i deithio'n rhwydd yn y parc diwydiannol.

O ran y grŵp llywio, mae'r Aelod yn gywir, does arnom ni ddim eisiau llu o sefydliadau yn arwain y gwaith hwn. Mae’r tasglu a sefydlwyd i ystyried pa welliannau rheilffyrdd sydd eu hangen ar gyfer y rhanbarth wedi cynhyrchu prosbectws rhagorol, Growth Track 360. Bydd y grŵp llywio yn dethol aelodau o’r tasglu hwnnw a bydd hefyd yn ystyried aelodau ychwanegol o blith yr awdurdodau lleol, oherwydd bydd eu buddsoddiad hwy ym metro gogledd Cymru hefyd yn hanfodol bwysig. Mae'n gwbl bosibl y gallai'r fargen dwf gyfrannu at ehangu maint a natur y metro yn y blynyddoedd i ddod.

O ran dyluniad y metro, y bwriad yw iddo gysylltu cymunedau mawr a bach gyda’r prif fannau cyflogaeth. Rydym ni wedi nodi'r canolfannau cychwynnol hynny lle bydd gwaith yn digwydd yn y camau cyntaf fel blaenoriaeth, yn syml oherwydd nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yn y mannau hynny a'r rhagolygon ar gyfer twf mewn swyddi.

Rydym ni hefyd wedi cyplysu prosiectau datblygu economaidd strategol gyda gweledigaeth y metro, ac mae'r Aelod yn ymwybodol o'r sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch sy'n cael ei ddatblygu’n gyflym gan olygu y bydd un ganolfan ym Mrychdyn ac un arall ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Felly, rydym yn cyplysu cyfleoedd cyflogaeth gyda buddsoddiad mewn trafnidiaeth yn y dyfodol.

Rwy'n mynd i grybwyll y ddadl gyhoeddus a gynhaliwyd ynghylch y dewis a ffefrir. Rwy'n cydnabod y gall unrhyw gynnig ar gyfer ffordd newydd ac ar gyfer gwella ffyrdd fod yn ddadleuol, ond cydnabuwyd gan fwy na 80 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, neu a fu yn yr arddangosfeydd, bod cludiant cyhoeddus lleol, ffyrdd cyhoeddus lleol a chefnffyrdd yn hanfodol er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith da ac at ddibenion cymdeithasol. Nododd mwy na 80 y cant bod buddsoddi mewn cludiant yn bwysig neu'n bwysig iawn.

O ran dewis un llwybr dros un arall, roedd y gefnogaeth i’r llwybr coch yn 74 y cant, i wneud dim yn 5 y cant, a'r gweddill ar gyfer y llwybr glas. O ran y rheiny yr effeithiwyd arnynt—ac yn amlwg, pe byddem ni wedi mynd ymlaen â'r llwybr glas, byddai hynny wedi achosi aflonyddwch anhygoel i lawer iawn o bobl sy’n byw yn yr ardal yr effeithir arni, a byddai hefyd wedi effeithio’n helaeth ar ba mor gystadleuol yw’r rhanbarth, gan y byddai angen uwchraddio dros gyfnod sylweddol o amser. Wrth i ni symud tuag at ddylunio'r llwybr penodol, byddwn yn trafod gyda rhanddeiliaid a bydd unrhyw iawndal y mae angen ei dalu yn unol â'r trefniadau presennol yn cael ei drafod gyda pherchnogion tir a pherchnogion eiddo yn y modd a sefydlwyd. Rwyf yn cydnabod hefyd bod angen cael arwyddion da a phriodol ar ddechrau'r cynllun llwybr coch cyfredol. Wrth ddod oddi ar yr M56, neu yn wir teithio tuag at yr M56, credaf y byddai'n fuddiol iawn cael arwyddion clyfar sy'n gallu cyfeirio traffig o’r mannau hynny lle mae damweiniau’n tueddu i ddigwydd, pan fônt yn digwydd, ac i sicrhau bod teithio i'r gogledd ac ar hyd arfordir y gogledd mor ddi-dor ac mor llyfn â phosib. Bydd yr arwyddion hynny, a'r cais am lôn araf yn y fan lle mae’r llwybr coch yn codi tuag at Laneurgain a Northop Hall, yn cael eu hystyried yn ystod y cam dylunio. Yn yr un modd, soniais yn fy natganiad am strategaeth o ran cyffyrdd a fydd yn rhoi sylw i ddiogelwch a chydymffurfiad ar y cyffyrdd presennol. Darganfuwyd—. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o lawer o'r cyffyrdd ar gyfnewidfa'r A494 / A55—byddwch yn ymwybodol bod rhai o'r cyffyrdd wedi eu cysylltu'n wael â'r lonydd, mae rhai o'r llithrfeydd yn rhy fyr, mae rhai o'r cyffyrdd yn gweld nifer fawr o ddamweiniau ac mae'n rhaid mynd i’r afael â’r rheini. Yn wir, bu dwy farwolaeth drasig dim ond yn ystod y mis diwethaf ar yr A494 yn Aston Hill. Felly, bydd y cyffyrdd yn cael sylw trwy gyfrwng strategaeth o wella diogelwch, amserau teithio a chapasiti.

Cododd Mark Isherwood y cwestiwn am bont A494 yr Afon Ddyfrdwy, a'r angen i sicrhau bod y bont hon yn cael y buddsoddiad priodol i'w huwchraddio fel ei bod yn ddiogel ac i sicrhau bod traffig yn gallu llifo'n ddidrafferth lle mae tagfa pur ddifrifol ar hyn o bryd, yn enwedig yn ystod oriau brig. Er y bydd y gwaith hwnnw'n digwydd ochr yn ochr â gwaith ar y llwybr coch, ni fydd yn dibynnu arnom ni yn dilyn y llwybr coch. Mae’n rhaid i'r gwaith hwnnw ddigwydd waeth beth sy’n digwydd gyda phrosiect coridor Glannau Dyfrdwy. Felly, bydd y buddsoddiad hwnnw'n digwydd ochr yn ochr, ond nid yw'n amodol ar gwblhau’r gwaith ar gyfer y llwybr coch o fewn amserlen benodol, er y byddem yn dymuno cyflwyno'r ddau cyn gynted ag y bo modd.

Yn olaf, mae'r Aelod wedi gofyn am y capasiti ar yr A494 a'r A55 presennol, gan awgrymu bod gwaith sydd angen ei wneud ar gyfnewidfa Ewloe, er y byddwn yn bwrw ymlaen â’r llwybr coch. Rwy’n cytuno â'r Aelod; bydd hynny'n ffurfio rhan o'r adolygiad strategol o gyffyrdd. Ac ar hyd yr A494 ar Aston Hill, mae'n ffaith syfrdanol bod cymaint â 70,000 o gerbydau ar hyn o bryd yn defnyddio'r rhan benodol honno o’r ffordd bob dydd—70,000 o bobl neu fwy yn defnyddio ffordd na chafodd ei chynllunio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac mae'r ffigwr hwnnw'n cyfateb i sawl rhan o'r M4, ac eto dim ond dwy lôn sydd i’r A494. Felly, rwy'n credu ei bod hi’n hen bryd gwneud y gwaith hwn. Rwyf hefyd o'r farn y bydd mwyafrif helaeth pobl y rhanbarth yn ei gefnogi, ac y bydd yn arwain at ranbarth llawer mwy cystadleuol.