Part of QNR – Senedd Cymru ar 26 Medi 2017.
Rôl fawr, o bosib. Mae modd adeiladu tai modiwlar yn gyflym, a hynny’n aml mewn ffatrïoedd. Maen nhw’n gallu bod yn fforddiadwy iawn os ydyn nhw’n cael eu cynhyrchu ar raddfa eang. Maen nhw hefyd yn hynod effeithlon o ran ynni, ac yn hyblyg o ran eu dyluniad. Gallai’r cyfleoedd am swyddi a hyfforddiant fod yn sylweddol hefyd. Bydd ein rhaglen tai arloesol yn profi gwahanol fodelau er mwyn asesu beth sy’n gweithio orau.