<p>Cyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:06, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r pethau a all rwystro’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yw achosion o dwyll ym mhwrs y wlad. Bydd llawer o bobl yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd mewn perthynas â rhai materion ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn wir, cafwyd achosion eraill yn y GIG, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd dros y blynyddoedd diwethaf, o ran y gwaith o reoli rhywfaint o’r gwariant cyfalaf yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw yn Ysbyty Glan Clwyd. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall trethdalwyr fod yn sicr nad ydynt yn dioddef o ganlyniad i dwyll? Pa fesurau diogelwch a roddir ar waith gennych, ac a ydych yn ystyried y mesurau diogelwch sydd ar waith eisoes o ganlyniad i’r straeon diweddaraf hyn?