<p>Cynigion Cyllideb Llywodraeth Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:17, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y dreth ystafell wely yn un o’r beichiau mwyaf diangen o bell ffordd sy’n wynebu rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Nid yw’r dreth hon wedi gwneud dim ond ychwanegu at y pwysau ar y rheini sydd eisoes yn ei chael yn anodd cadw deupen llinyn ynghyd. Mae’r dreth ystafell wely, mewn sawl achos, wedi effeithio ar bobl nad oes dewis ganddynt i symud i mewn i dŷ llai. Felly, onid yw’n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru gael gwared ar dreth sy’n cosbi’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas? Os gall Llywodraeth yr Alban gael gwared ar y dreth ystafell wely, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth? Felly, hoffwn ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n mynd i ymrwymo i gael gwared ar y dreth ystafell wely drwy’r cylch cyllidebol nesaf ai peidio.